MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Athro
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Cynradd x 3

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd San Silyn yr Eglwys yng Nghymru

Allt Madeira

Wrecsam

LL13 7HD

Pennaeth - Mr Fraser Darlington

ATHRO/ATHRAWES CYNRADD x 3

Prif Raddfa Gyflog/ Uwch Raddfa Gyflog

LLAWN AMSER PARHAOL

I ddechrau 1 Medi 2023

Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi tri ymarferydd cyfnod cynradd ymrwymedig, ymroddedig ac ysgogol.

Bydd angen i'r ymgeiswyr llwyddiannus fod yn athrawon ysbrydoledig a brwdfrydig. Bydd yn rhaid i ymgeiswyr arddangos y sgiliau sydd eu hangen i fod yn aelod effeithiol o'r tîm, gyda disgwyliadau uchel o'r holl ddysgwyr.

Bydd angen iddynt ddefnyddio strategaethau dysgu effeithiol.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch y pennaeth ar 01978 318880.

Mae croeso i ymgeiswyr ar y rhestr fer ymweld â'r ysgol.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod: headteacher@stgiles-pri.wrexham.sch.uk

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: Hanner dydd, dydd Mawrth 25 Ebrill