MANYLION
- Lleoliad: Wrexham,
- Testun: Athro
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Not Supplied
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Disgrifiad
Ysgol Gynradd Gymunedol Parc Borras
Athro Plant Byddar ar gyfer y Ddarpariaeth ag Adnoddau ar gyfer Plant Byddar
Llawn Amser - Contract Dros Dro dros gyfnod Mamolaeth gyda Lwfans AAA
Rhif Ffôn: 01978 346890 e-bost: mailbox@borraspark-pri.wrexham.sch.uk
Yn ofynnol ar gyfer mis Medi 2023 (yr union ddyddiad i'w gadarnhau)
Mae llywodraethwyr yr ysgol gynradd prif ffrwd fawr a ddatblygwyd yn ddiweddar eisiau penodi athro cymwys, brwdfrydig, addas i gydlynu darpariaeth addysgol yn effeithiol i ddisgyblion gyda nam ar y clyw o fewn ein darpariaeth ag adnoddau Cyfnod Allweddol 2. Mae'r swydd yn cynnwys cydlynu tîm penodol o staff cymorth ac mae angen cyswllt agos gyda Gwasanaeth Cymorth Synhwyraidd Gogledd Cymru, staff prif ffrwd, rhieni ac ystod o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol eraill fel bo'n briodol.
I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu ymweliad â'r ysgol, cysylltwch â Swyddfa'r Ysgol ar 01978 346890 (Dewis 2)
Dyddiau cau ar gyfer ceisiadau : Dydd Gwener 21 Ebrill 2023 am 12:00pm
Proses llunio rhestr fer: Dydd Llun 24 i ddydd Mercher 26 Ebrill
Arsylwi gwers gan ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer : Dros bythefnos o ddydd Mawrth 2 Mai.
Cynhelir cyfweliadau: Dydd Llun 15 Mai - yn y prynhawn o 1:30pm.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr lenwi Ffurflen Gais Cyngor Sir Wrecsam (wedi'i llenwi â llaw neu'n electronig) ac mae'n rhaid cynnwys llythyr ategol wedi'i deipio yn amlinellu eu haddasrwydd ar gyfer y swydd hon. Ni ddylai llythyrau ategol fod yn fwy na 3 ochr A4, maint ffont 12 a dylent gyfeirio'n benodol at y Manylion am yr Unigolyn.
Ffurflenni cais i'w dychwelyd drwy'r post neu â llaw i:
Mr Rob Nicholson
Pennaeth
Ysgol Gynradd Gymunedol Parc Borras
Ffordd Parc Borras
Wrecsam
LL12 7TH
Neu gallwch e-bostio eich cais i: mailbox@borraspark-pri.wrexham.sch.uk
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Ymweld ag Ysgol Gynradd Parc Borras
Rydym yn annog pob darpar ymgeisydd i ymweld (neu o leiaf gysylltu) â'r ysgol cyn gwneud cais, felly rydym wedi sicrhau bod y dyddiadau canlynol ar gael ar gyfer ymweliad safle cyffredinol. Cysylltwch â'r brif swyddfa i drefnu sesiwn neu i drafod y swydd yn fwy manwl:
Dydd Llun 27 Mawrth 9:30am ~ Dydd Mawrth 28 Mawrth 4:00pm ~ Dydd Mawrth 18 Ebrill 1.30pm neu 4:00pm
Sylwer, er yr hoffem gydnabod pob cais unigol, nid yw'n ymarferol i ni wneud hynny. Felly ymgeiswyr ar y rhestr fer yn unig y cysylltir â nhw am neu cyn 5:00pm dydd Mercher, 26 Ebrill. Os na fyddwch yn clywed gennym, yna ni fyddwch wedi bod yn llwyddiannus ar yr achlysur hwn a dymunwn bob llwyddiant i chi gydag unrhyw geisiadau yn y dyfodol.