MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Athro
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes (Cyfnod Sylfaen)

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Gymunedol y Parc

Llai

Wrecsam Ll12 0TR

Ffon: 01978 859100

Pennaeth - Mrs Rebecca Billington

Athro/Athrawes (Cyfnod Sylfaen)

Llawn Amser, Parhaol

Yn dilyn dyrchafiad llwyddiannus ein Dirprwy Bennaeth, mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Gymunedol Parc, Llai, yn dymuno penodi Athro/Athrawes Cyfnod Sylfaen profiadol i'r ysgol. Mae gennym ar hyn o bryd 335 o ddisgyblion ar y gofrestr, gyda 12 o ddosbarthiadau prif ffrwd a 2 Ddarpariaeth ag Adnoddau.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:

• Yn athro/athrawes ardderchog gyda phrofiad o addysgu mewn lleoliad Cyfnod Sylfaen

• Yn flaengar ac awyddus i ddatblygu athroniaethau'r Cyfnod Sylfaen ymhellach ochr yn ochr â'r Cwricwlwm i Gymru

• Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu, rhyngbersonol a threfnu ardderchog

• Yn ymdrechu i gofleidio gweledigaeth a gwerthoedd ein hysgol gyfan

• Yn gallu gweithio'n dda mewn tîm

• Yn gallu rheoli'r ystafell ddosbarth yn ardderchog

Yn gyfnewid, yr ydym yn cynnig:

• Amgylchedd gwaith cefnogol a hapus

• Plant dymunol

• Corff Llywodraethu cefnogol a rhagweithiol

• Ymrwymiad i gefnogi eich datblygiad gyrfaol proffesiynol a phersonol

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod:

Headteacher@park-pri.wrexham.sch.uk

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: 12 canol dydd Dydd Iau 20 Ebrill 2023

SYLWADAU A CHYFWELIADAU: 26 a 27 Ebrill 2023