MANYLION
  • Lleoliad: Aberystwyth,
  • Pwnc: Athro
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes (Cymraeg Ail-iaith) - Ysgol Gyfun Penglais

Cyngor Sir Ceredigion
Ynglŷn â'r rôl
Rydym yn awyddus i benodi athro/athrawes Cymraeg rhagorol fydd yn gallu cefnogi datblygiad Cymraeg 2il Iaith yn yr ysgol er mwyn sicrhau safonau uchel yn y pwnc. Mae hwn yn swydd llawn amser.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ffynnu ar yr her o weithio gyda'n staff a disgyblion i sicrhau fod yr ansawdd dysgu ac addysgu yn gyson o safon dda a rhagorol; y bydd profiad dysgu'r disgyblion wedi ei selio ar sialens a meddwl creadigol; y bydd yr holl ddisgyblion yn cyrraedd safonau uchel ac yn datblygu eu hyder, ac y bydd yr adran Gymraeg yn ganolog i fywyd cyhoeddus yr ysgol. Byddwch yn rwymedig i ddod o hyd i ddulliau cynhwysfawr sydd yn ysbrydoli disgyblion ac yn gwella cyfleoedd bywyd ein holl ddisgyblion.

Mae hwn yn gyfle gwych i ymgeisydd uchelgeisiol gael chwarae rôl allweddol i gynyddu uchelgeisiau a llwyddiannau ein disgyblion, ac felly yn cyfrannu at siwrnai Ysgol Penglais i fod yn ysgol ragorol.

Mae gan Ysgol Penglais lawer i'w gynnig:
  • ysgol sydd yn seiliedig ar waith ymchwil gyda pherthnasau da rhwng staff a disgyblion
  • ymroddiad i ddatblygiad proffesiynol staff er mwyn cyrraedd rhagoriaeth
  • agos i dref Prifysgol bywiog Aberystwyth
  • wedi ei leoli ar arfordir bendigedig bae Ceredigion, ardal o hyfrydwch naturiol
Am fwy o fanylion, cysylltwch a Helena Clements (PA i'r Pennaeth) ar 01970 624811 neu drwy e-bost hcl@penglais.org.uk

Mae Ysgol Penglais yn gyflogwr sydd yn sicrhau cyfleoedd cyfartal.

Cyfweliad: 27/04/2023

Pecyn Gwybodaeth

Noder:Cedwir yr hawl i estyn dyddiad cau.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol ar gyfer Gwasanaethau Dysgu Cyngor Sir Ceredigion. Ein nod yw cefnogi plant a phobl ifanc bregus er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein hysgolion yn ymrwymedig i ddiogelu ac amddiffyn pob plentyn gan gymryd camau i ddiogelu'u lles a chydnabod eu hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi gan ethos cyffredinol yr holl ysgolion.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy