MANYLION
  • Lleoliad: Anglesey,
  • Testun:
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £12.00 - £14.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Mehefin , 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Clerc i Corff Llywodraethu Ysgol

Clerc i Corff Llywodraethu Ysgol

Cyngor Sir Ynys Mon
Disgrifiad

Gwasanaeth: Dysgu

Cyflog: Graddfa 3, £12.3844 - £13.0198 yr awr

Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel Uwch boddhaol.

Mae Gwasanaeth Dysgu Ynys Môn yn chwilio am unigolion trefnus, brwdfrydig a hyblyg i ymuno â chronfa o Glercod sy'n darparu cefnogaeth weinyddol i gyrff llywodraethu ysgolion ledled Ynys Môn.

Rôl Clerc yw paratoi ar gyfer cyfarfodydd llywodraethwyr, cymryd cofnodion mewn cyfarfodydd a darparu gwasanaeth gweinyddol a chynghori llawn i Gyrff Llywodraethu ysgolion. Bydd hyn yn cynnwys mynychu tua 3 chyfarfod llywodraethwyr llawn ac amrywiaeth o bwyllgorau statudol eraill (i'w cytuno arnynt gyda Chadeirydd y Llywodraethwyr) y flwyddyn. Cynhelir cyfarfodydd gyda'r nos fel arfer, gyda gweddill y gwaith yn cael ei wneud o adref.

Mae'r rôl yn addas ar gyfer rhywun sy'n edrych am ffordd o weithio'n hyblyg o amgylch ymrwymiadau eraill neu am rôl ran-amser, sy'n cynnig hyfforddiant llawn a chyfleoedd parhaus i ddatblygu. Mae profiad o waith gweinyddol a sgiliau cyfathrebu effeithiol yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol yn ogystal â'r gallu i ddelio â gwybodaeth a data mewn modd cyfrifol a chyfrinachol.

Gweler y Swydd Ddisgrifiad am y gofynion sgiliau yn y Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod disgrifiad swydd/manylion personol fel ffeil PDF.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r manyleb personol i'ch cyfrifiadurneu go bach gan unwaith y bydd y swydd yn cau, bydd y ddwy ddogfen yma yn diflannu.

** Ni ddylai staff Cyngor Sir Ynys Môn ymgeisio drwy'r dudalen allanol, bydd angen i chi fewngofnodi drwy Ddangosfwrdd Amdanaf I i wneud cais. Os na fyddwch yn gwneud cais drwy Dangosfwrdd Amdanaf I, yn anffodus ni dderbynnir eich ffurflen gais. **