MANYLION
  • Lleoliad: Within Ceredigion,
  • Testun: Athro
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Gorffennaf, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Cyflenwi

Athro/Athrawes Cyflenwi

Cyngor Sir Ceredigion
Ynglŷn â'r rôl
Rydym yn ymfalchïo mewn cynnig darpariaeth addysgol o'r safon uchaf ac felly rydyn ni'n chwilio am athrawon ysgogol ac effeithiol i ychwanegu at ein cofrestr gyflenwi ganolog.

Cydnabyddir bod athrawon cyflenwi yn hynod o bwysig er mwyn sicrhau parhad addysgu a dysgu effeithiol yn ystod absenoldeb staff. Gall gwaith cyflenwi ddarparu cyfle gwych i athrawon sy'n dymuno mwy o hyblygrwydd neu sydd newydd gymhwyso ac am ennill profiad ymarferol.

Rydym yn chwilio am athrawon sy'n:
  • gallu ennyn diddordeb plant gyda gwersi ysgogol
  • cael effaith gadarnhaol ar gynnydd disgyblion ac yn effeithiol wrth gynyddu cyraeddiadau
  • defnyddio strategaethau rheoli ymddygiad cadarnhaol ac effeithiol
  • meddu ar wybodaeth gwricwlaidd a phwnc rhagorol
  • gallu dangos hyblygrwydd a'r gallu i addasu i wahanol anghenion a gwerthoedd ein hysgolion
  • dangos ymrwymiad cryf i'w datblygiad proffesiynol eu hunain

Cefnogir hyn trwy ein ethos cyffredinol a phob un o'n hysgolion, ac felly, rhaid i bob aelod staff sydd yn gweithio mewn ysgol gwblhau fodiwl e-ddysgu Diogelu Plant Lefel 1 ynghyd â bod yn gofrestredig gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Daniel Davies ar Daniel.Davies@ceredigion.gov.uk.

Mae hon yn ymgyrch recriwtio barhaus ac o ganlyniad nid oes dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar hyn o bryd.

Bydd y ceisiadau a gyflwynir yn cael eu hystyried yn gyfnodol.

Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant a phobl ifanc bregus er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel a phosibl. Rydym ni a'n sefydliadau addysgiadol yn cydnabod bod plant a phobl ifanc a'r hawl i gael eu hamddiffyn a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu'u lles. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn a byddwn yn gofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sef y CRB gynt.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant