MANYLION
  • Lleoliad: Aberaeron,
  • Testun: Pennaeth Adran
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Pennaeth - Ysgol Gynradd Cei Newydd

Cyngor Sir Ceredigion
Ynglŷn â'r rôl
Mae'r hysbyseb hon ar gyfer Pennaeth lle mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol.

Mae Ysgol Cei Newydd yn ysgol fach, gymunedol gyda chalon fawr. Credwn fod awyrgylch hapus a chartrefol yn hanfodol i blant allu dysgu, datblygu a chyflawni eu gwir botensial. Rydym yn ymfalchïo yn ein diwylliant o gyfeillgarwch, amrywiaeth a derbyniad.

Wedi'i leoli yng nghanol pentref Cei Newydd, dim ond taith gerdded fer o'r traethau, rydym yn gwneud y gorau o'r lleoliad anhygoel hwn i ddod ag addysg yn fyw. Ar hyn o bryd mae gan Ysgol Cei Newydd tua 85 o ddisgyblion ynghyd â thîm effeithiol ac ymroddedig o staff. Yn unol â chategoreiddio ysgolion Llywodraeth Cymru, caiff Ysgol Cei Newydd ei chategoreiddio fel ysgol Trosiannol 2 (T2) gan weithio tuag at Gategori 2, ysgol ddwyieithog. Rydym yn ysgol boblogaidd i deuluoedd sy'n symud i'r ardal yn ogystal â thrigolion Cei Newydd. Rydym yn ysbrydoli ein plant i fod yn ddwyieithog ac i ddatblygu gwybodaeth eang o'r iaith Gymraeg a'i diwylliant.

Mae'r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi Pennaeth ysbrydoledig ac ymroddedig i arwain yr ysgol yng nghyfnod nesaf ei datblygiad. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn adeiladu ar y cryfderau presennol ac yn parhau i gefnogi ein disgyblion diwylliannol amrywiol. Dylent fod yn agored i syniadau newydd a sicrhau bod yr ysgol yn paratoi y disgyblion ar gyfer y byd cyfnewidiol o'u cwmpas. Yn ogystal, rydym yn chwilio am Bennaeth a all arwain y tîm addysgu wrth gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru a'r Bil ADY.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael:
  • gwybodaeth a phrofiad perthnasol o gyflwyno addysgu a dysgu rhagorol
  • dealltwriaeth o fethodolegau pedagogaidd effeithiol
  • gwybodaeth gadarn o strategaethau asesu disgyblion effeithiol
  • dealltwriaeth o ddatblygiadau cyfredol a datblygiadau i ddod mewn addysg Gymraeg
  • y gallu i ddatblygu a rheoli tîm sy'n perfformio'n dda gan sicrhau datblygiad proffesiynol staff trwy brosesau rheoli perfformiad effeithiol
  • gweledigaeth glir o ddatblygu strategaeth gan gynnwys gweithredu a gwerthuso
  • gwybodaeth ymarferol o reoli cyllidebau'n effeithiol
  • profiad o gynllunio'r cwricwlwm a dyrannu adnoddau
  • y gallu i ddatblygu perthynas gref a chefnogol gyda staff, disgyblion, rhieni, Llywodraethwyr, y Cyngor Sir, y gymuned leol, a chyrff eraill

Yn ogystal â'r gofynion hyn, mae'r ysgol a'r Llywodraethwyr yn rhoi pwys arbennig fod gan yr ymgeisydd:
  • ddisgwyliadau uchel ohonynt eu hunain ac eraill o fewn lleoliad yr ysgol a chymuned ehangach Cei Newydd
  • gweledigaeth glir ar gyfer dyfodol yr ysgol sy'n ysbrydoli staff, rhieni a disgyblion fel ei gilydd
  • arweiniad rhagorol sy'n tynnu ar ac yn atgyfnerthu arbenigedd staff eraill
  • ygallu i ddarparu amgylchedd gofalgar, parchus a chynhwysol i bawb
  • ygallu i annog disgyblion i gofleidio'r diwylliant a'r iaith Gymraeg yn llawn ac i annog rhieni i gefnogi'r Gymraeg adref
  • y gallu i sicrhau bod yr ysgol yn helpu pob disgybl i ddatblygu dysgu annibynnol ac i fod yn barod ar gyfer y byd y tu allan i'r ysgol
  • y gallu i barhau i ddatblygu cysylltiadau cryf rhwng yr ysgol a'r gymuned leol
  • yr awydd i fod yn agored i syniadau ac arbenigedd newydd o fewn a thu allan i'r ysgol
  • profiad a'r gallu i reoli newid yn effeithiol

Ar hyn o bryd mae gan y Pennaeth ymrwymiad addysgu sylweddol.

Mae croeso i ymgeiswyr sy'n dymuno ymweld â'r ysgol cyn gwneud cais, wneud hynny drwy gysylltu â Karen White ar 01545 560363 i drefnu ymweliad.

Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â Rhianydd James, Ymgynghorydd Cefnogi Ysgolion, ar 07811 593801.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Sul, Mawrth 19eg a chynhelir cyfweliadau ar ddydd Mawrth, yr 28ain o fis Mawrth.

Dyddiad dechrau: Medi 2023 neu chyn gynted â phosib wedi hynny.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Noder: Cedwir yr hawl i estyn dyddiad cau.

Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant a phobl ifanc bregus er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym ni a'n sefydliadau addysgiadol yn cydnabod bod plant a phobl ifanc a'r hawl i gael eu hamddiffyn a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu'u lles. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn a byddwn yn gofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sef y CRB gynt.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy