MANYLION
  • Lleoliad: Cardigan,
  • Testun: Astudiaethau Cyffredinol
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Arbenigol - Ysgol Gynradd Aberporth

Athro/Athrawes Arbenigol - Ysgol Gynradd Aberporth

Cyngor Sir Ceredigion
Ynglŷn â'r rôl
Rydym yn edrych am athro/athrawes ragorol i addysgu ac arwain yng Nghanolfan y Don yn yr ysgol, i ddechrau yn nhymor yr Haf 2023 neu'r dyddiad cynharaf yn dilyn hynny.

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth athrawon blaengar a brwdfrydig sydd â dealltwriaeth â phrofiad arbenigol.

Bydd yr athro/athrawes arbenigol yn gweithio dan gyfarwyddyd y Pennaeth a chydlynydd ADY yr ysgol. Mae'r ganolfan hon yn cynnig darpariaeth ar gyfer disgyblion y cyfnod Sylfaen a chyfnod allweddol 2 sydd ag anghenion dysgu, corfforol a/neu meddygol dwys.

Mae'r Ganolfan yn cynnig lleoliad gofalgar a gweithgareddau dysgu sydd yn cael eu gwahaniaethu mewn ffordd addas i gwrdd ag anghenion disgyblion unigol. Bydd yr holl ddisgyblion yn cael mynediad i raglenni sydd wedi'u teilwra'n unigol i gwrdd â'u hanghenion. Bydd disgyblion yn cael eu hintegreiddio i addysg brif ffrwd pan fo'n briodol.

Bydd gan yr athro/athrawes arbenigol y gallu i addysgu gwersi rhagorol, a'r gallu i greu perthynas ystyrlon ac yn ysbrydoli disgyblion gydag anawsterau dwys.

Mae y Ganolfan yn gweithio mewn ffordd hyblyg i gwrdd ag anghenion disgyblion yng Ngheredigion. Disgwylir felly y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg ar draws y Cyfnodau Allweddol o fewn y Ganolfan, ac o fewn y lleoliad prif ffrwd.

Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â'r Pennaeth, Mrs Elen Evans ar 01239 810081 neu e-bostio EvansE1615@aberporth.ceredigion.sch.uk

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Noder: Cedwir yr hawl i estyn y dyddiad cau.

Mae diogelu ac amddiffyn plant a phobl ifanc yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a'r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a'r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu'u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant