MANYLION
  • Lleoliad: Canolfan Rheidol, Aberystwyth,
  • Testun: Astudiaethau Cyffredinol
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes (Mathemateg)

Athro/Athrawes (Mathemateg)

Cyngor Sir Ceredigion
Ynglŷn â'r rôl
Mae prosiect e-sgol wedi bod yn rhedeg ers Medi 2018, yn cynnig gwersi trwy e-ddysgu i ddisgyblion ôl-14 na fyddai ar gael heb y ddarpariaeth arloesol hwn. Ein bwriad yw i ehangu'r ddarpariaeth sydd ar gael fel bod dewis eang o gymwysterau 14-19 ar gael i'n pobl ifanc, a hefyd i hybu a chefnogi'r ddarpariaeth hwn ar draws Cymru.

Mae e-sgol yn awyddus i benodi addysgwr blaengar a chydwybodol i ddysgu Mathemateg Lefel A i grŵp o ddisgyblion o glwstwr o ysgolion, i ddechrau ar 1af o Fedi, 2023. Croesawir ceisiadau gan athrawon profiadol ynghyd ag athrawon newydd gymhwyso.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
  • angerddol dros ddysgu Mathemateg
  • addysgwr rhagorol
  • ymroddedig i sicrhau fod pob disgybl yn cyrraedd eu potensial
  • yn meddu ar brofiad o addysgu Mathemateg Lefel A
  • yn meddu ar brofiad o addysgu Mathemateg Pellach Lefel A
Bydd y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol i'r swydd yma.

Bydd y mwyafrif o'r addysgu yn cael ei wneud trwy Teams gan y bydd disgyblion yn mynychu mwy nag un safle. Golygir hyn nad oes rhaid i'r athro/athrawes fod yn byw yn lleol ond bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus i deithio i'r ysgolion hynny'n achlysurol.

Am sgwrs anffurfiol neu am ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu gyda'r Pennaeth, Llifon Ellis ar llifon.ellis@e-sgol.cymru

Dyddiad cyfweliad: 28.03.23

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Noder: Cedwir yr hawl i estyn y dyddiad cau.

Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant a phobl ifanc bregus er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym ni a'n sefydliadau addysgiadol yn cydnabod bod plant a phobl ifanc a'r hawl i gael eu hamddiffyn a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu'u lles. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn a byddwn yn gofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sef y CRB gynt.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Canolfan Rheidol Mae ein swyddfa yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, yn adeilad sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r swyddfa, gyda'i dyluniad cynllun agored, yn darparu lle rhagorol ar gyfer gweithio ar y cyd.
Darllen mwy Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy