MANYLION
  • Lleoliad: Bangor, Gwynedd, LL57 2TP
  • Testun: Dirprwy Bennaeth
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £66,743 - £72,598
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Ebrill, 2023 12:00 y.p

This job application date has now expired.

PENNAETH CYNORTHWYOL COLEG MENAI A CHOLEG MEIRION-DWYFOR

PENNAETH CYNORTHWYOL COLEG MENAI A CHOLEG MEIRION-DWYFOR

Grwp Llandrillo Menai
Am fanylion pellach ewch i https://www.gllm.ac.uk/cy/jobs

Mae Grŵp Llandrillo Menai'n chwilio am unigolyn brwd ac egnïol i ymuno ag uwch dîm rheoli Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor fel Pennaeth Cynorthwyol.

Dyma gyfle prin i ymuno ar lefel strategol ag un o sefydliadau addysg bellach mwyaf Prydain. Mae Grŵp Llandrillo Menai'n sefydliad a chanddo drosiant blynyddol o dros £90M. Mae'n cyflogi dros 1500 aelod o staff ac yn gyfrifol am gynnig darpariaeth addysgol i dros 21,000 unigolyn mewn meysydd sy'n cynnwys addysg bellach, addysg uwch, prentisiaethau ac addysg oedolion.

Prif gyfrifoldeb deiliad y swydd fydd goruchwylio a rheoli Rheolwyr y Meysydd Rhaglen sy'n arwain y ddarpariaeth addysgol a gynigir mewn amrywiol bynciau academaidd a galwedigaethol. Bydd hefyd yn gyfrifol am safle (safleoedd) ar draws Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor ac yn cael cyfle i gyfrannu'n strategol i ddatblygiad campysau'r ddau goleg.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn uniongyrchol atebol i Bennaeth y Coleg ac fel aelod o Dîm Strategol Grŵp Llandrillo Menai bydd yn gyfrifol hefyd am: gynllunio'r cwricwlwm; cynllunio a rheoli cyllidebau sylweddol; ymateb i gyfleoedd economaidd ac am gydweithio â chyflogwyr a rhanddeiliaid i sicrhau bod y ddarpariaeth addysgol yn diwallu anghenion yr ardal.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn greiddiol i'r gwaith o sicrhau bod datblygiadau cyfalaf cyffrous gwerth £30M yn cael eu cyflawni – campws newydd i Goleg Menai ym Mangor a datblygu a moderneiddio campysau Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli a Dolgellau.


JOB REQUIREMENTS
Gweler ynghlwm