MANYLION
  • Lleoliad: Blaenau Childrens Centre, Ammanford,
  • Testun: Datblygiad Addysg a Gofal Plant
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Gofal Preswyl i Blant

Swyddog Gofal Preswyl i Blant

Cyngor Sir Caerfyrddin
Disgrifiad

Nifer amrywiol o oriau ar gael

Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant a phobl ifanc?

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â gwasanaeth preswyl plant Cyngor Sir Caerfyrddin. Rydym yn buddsoddi'n sylweddol yn ein darpariaeth breswyl ac yn cydweithio â'r gwasanaethau i oedolion i sicrhau proses bontio gadarnhaol i oedolion ifanc ag anghenion ac anableddau cymhleth. Rydym yn chwilio am staff sydd â'r gwerthoedd, y cymhelliant a'r ymrwymiad cywir i weithio yn y rôl werth chweil ond heriol hon. Byddwch yn dod yn rhan o dîm sy'n darparu amgylchedd ysgogol a meithringar i alluogi ein plant a'n pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial.

Nid yw'n hanfodol bod gennych brofiad blaenorol o weithio mewn cartrefi preswyl gan ein bod yn cydnabod bod unigolion yn dod ag ystod eang o brofiadau a sgiliau trosglwyddadwy. Rydym yn cynnig pecyn ymsefydlu a hyfforddi ardderchog, gan gynnwys eich cefnogi i ennill cymhwyster lefel 3 mewn gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc, os nad oes gennych hyn eisoes.

Bydd gofyn i chi weithio sifftiau ar sail rota. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda'r hwyr, ar benwythnosau ac ar wyliau banc. Mae'r swydd yn cynnwys cysgu dros nos fel rhan o'ch dyletswyddau.

Bydd angen ichi fod â gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.

Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.

Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch â Victoria Griffiths on 01269 850789 / vcgriffiths@sirgar.gov.uk

Cliciwch ar y ddolen yn y blwch Lawrlwythiadau isod i weld copi o'r Proffil Swydd.

Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio i ymgeisio am y swydd hon.

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr: