MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Cymorth
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Cyllid - Addysg

Swyddog Cyllid - Addysg

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

G06 - £24,054 - £25,409 y flwyddyn (37 awr yr wythnos)

Addysg ac Ymyrraeth Gynnar

Mae Adran Addysg ac Ymyrraeth y Cyngor yn chwilio am Swyddog Cyllid. Mae'r swydd yn un generig ac yn darparu cymorth ariannol amrywiol ar draws yr adran.

Bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth ariannol i holl ysgolion Wrecsam, gan sicrhau bod ffurflenni hawliadau llefrith, hawliadau dileu, ailgodi tâl a ffurflenni ariannol eraill yn cael eu cyflwyno ar amser. Mae'r swydd hefyd yn gyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio gydag amrywiaeth o gydweithwyr, yn cynnwys penaethiaid, staff cefnogi ysgolion a'r tîm Rheoli Addysg.

Yn ddelfrydol, byddwch yn dechnegydd cyfrifeg cymwys neu rannol gymwys gyda phrofiad o ddarparu cyngor a chefnogaeth ariannol i reolwyr.

I gael sgwrs am y swydd, cysylltwch â Lee Robertson ar 01978 292412 neu anfonwch e-bost at lee.robertson@wrexham.gov.uk .

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.