MANYLION
- Lleoliad: Penarth, Vale of Glamorgan, CF64 2TP
- Testun: Athro
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Blynyddol
- Salary Range: £19,412 - £30,700
- Iaith: Saesneg
- Dyddiad Cau: 28 Mawrth, 2023 11:59 y.p
Athro/Tiwtor Mecaneg Heb Gymhwyso - Ysgol y Deri (Derw Newydd)
Ysgol Y Deri
Amdanom ni
Ydych chi eisiau bod yn rhan o gyfnod cyffrous o dwf mewn ysgol flaengar ac arloesol?
Mae Ysgol y Deri yn tyfu felly rydyn ni eisiau recriwtio tiwtoriaid deinamig ac egnïol i ymuno â'n tîm anhygoel. Rydyn ni'n credu y dylai’r ysgol fod yn lle gwych i fod. Ein ffocws yw ysgogi newid yn ein plant a sicrhau dyfodol llewyrchus.
Mae dealltwriaeth gref o anghenion dysgwyr ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl yn hanfodol. Mae hefyd angen hanes o weithio gyda disgyblion sydd wedi cael eu heithrio neu eu gwahardd oherwydd problemau trawma ac ymlyniad sylweddol.
Bydd disgwyl i chi gynllunio a chyflwyno dysgu, addysgu ac asesu gan ddilyn gofynion ESTYN. Byddwch chi’n gyfrifol am gyflwyno ein cwricwlwm adeiladu i grwpiau bach 11 – 16 oed. Maen nhw’n gallu dod aton ni oherywdd eu bod wedi cael eu gwahardd o ysgol prif ffrwd neu mae perygl i hynny ddigwydd, mae ffobia o’r ysgol arnyn nhw, maen nhw’n cael eu hystyried yn agored i niwed, neu oherwydd bod angen addysg mwy ymarferol arnyn nhw.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cyflwyno cymwysterau Sgiliau Mecanyddol lefel 1 a Lefel 2.
Bydd y swydd wedi’i lleoli yn ein darpariaeth uwchradd mewn cyfleuster newydd yn y Bari. Dyma gyfle cyffrous i fod yn rhan o dîm sy'n datblygu dulliau a darpariaeth ar gyfer disgyblion sydd wedi’u heithrio neu eu gwahardd o ysgolion eraill.
Am y Rôl
Manylion Cyflog: Y Raddfa Athro Heb Gymhwyster £19,412 - £30,700 + Lwfans AAA. Gradd i’w chadarnhau ar sail profiad.
Oriau Gwaith / Wythnosau’r Flwyddyn / Patrwm Gwaith: Llawn amser (Llun-Gwener 8.30am – 3.30pm)
Prif Weithle: Derw Newydd – Y Bari
Parhaol
Amdanat ti
Bydd angen y canlynol arnoch:
Rydym yn chwilio am rywun sydd wir eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc; i fod y gwahaniaeth. Rhywun sydd eisiau helpu ein myfyrwyr i gyflawni eu potensial trwy roi cyfle i newid; rhywun sy’n dawel hyderus; rhywun sy’n frwdfrydig heb anghofio’r angen am ffiniau. Ein gwerthoedd yw caredigrwydd, chwilfrydedd a newid, i ddisgyblion a staff. Allwch chi fod yn fodel rôl anhygoel yn Ysgol y Deri?
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus arfer ystafell ddosbarth ardderchog, gan gynnwys defnyddio TGCh, disgwyliadau uchel i ddisgyblion a pharodrwydd i weithio fel rhan o dîm ymroddedig sydd wedi ymrwymo i ddarparu'r cyfleoedd gorau posibl i'n holl ddisgyblion.
Bydd gennych ddealltwriaeth o anawsterau trawma ac ymlyniad a byddwch yn effeithiol wrth weithio gyda disgyblion sydd â’r rhain. Rydyn ni’n cynnig hyfforddiant a datblygiad arbenigol gan ein timau therapi mewn meysydd fel cyfathrebu, rheolaeth emosiynol, ymlyniad a thrawma a Chymorth Ymddygiad Positif.
Bydd gofyn i chi gael GDG manwl ar gyfer Plant ac Oedolion, a bod wedi cofrestru gyda CGA.
Sut i wneud cais
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Viv Burbidge-Smith
Edrychwch ar ein gwefan, https://www.yyd.org.uk/a'n tudalennau cyfryngau cymdeithasol; Facebook – Ysgol Y Deri Special School
Twitter - @YsgolYDeri @DeriYsgolPrim @yydsecondary
Dull Dychwelyd e.e. e-bost / dychwelyd i'r ysgol: vburbidgesmith@yyd.org.uk
Rheolwr AD Busnes Ysgol