MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon,
  • Testun: Cymorth
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £15,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Technegydd Ysgol Syr Hugh Owen

Technegydd Ysgol Syr Hugh Owen

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL SYR HUGH OWEN, CAERNARFON
(Cyfun 11 - 18; 930 o ddisgyblion)

Yn eisiau: ar gyfer: 1af o Fedi, 2023

Technegydd Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
(39 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor Ysgol a 5 diwrnod mewn hyfforddiant)

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7 - 11 (£19,257 - £20,708 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mr Clive Thomas yshopen@syhughowen.ysgolionwynedd.cymru.

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu i'w cyflwyno Marian Williams, PA y Pennaeth, Ysgol Syr Hugh Owen, Ffordd Bethel, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1HW. Rhif ffôn: 01286 682975; e-bost: marian.williams.syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 10:00 Y.B, DYDD IAU, 23 o FAWRTH, 2023.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

Swydd Ddisgrifiad
Technegydd
MDaPh

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Rheolwr Cyswllt: Pennaeth Gwyddoniaeth a Pennaeth

Technoleg/Rheolwr Busnes/Pennaeth

Pwynt/Graddfa Cyflog: GS4 Pwyntiau 7-11

Oriau Gwaith: 8:00 - 16:00 yn Arferol (hyblyg mewn amgylchiadau)

Oriau Cinio: 13:00 - 13:30

Cytundeb: Parhaol - 37 awr - Tymor Ysgol yn unig

Dyddiad Cychwyn: 1 Medi 2023

Pwrpas Cyffredinol y Swydd:

O dan arweiniad Pennaeth y Gyfadran Wyddoniaeth/Pennaeth y Gyfadran Technoleg/Pennaeth Maes
Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg/Pennaeth - cefnogi'r staff mewn dosbarthiadau, labordai a
gweithdai, gan roi cyngor technegol.
Darparu cefnogaeth arbenigol ar gyfer y Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Cyfrifoldebau a Thasgau Allweddol:
Cefnogi Staff yn y Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
• Cysylltu gyda staff yr adrannau i drafod amserlen gwersi ymarferol, offer a chynlluniau gwaith.
• Paratoi offer / cemegion / cynhwysion cyn gwersi, ac arholiadau ymarferol, yn dilyn amserlen yr
adran. Hefyd cyflenwi gliniaduron/iPads/Chrome books.
• Siopa am gynhyrchion sydd eu hangen ar gyfer gwersi ymarferol yn wythnosol. Cysylltu gyda'r
Rheolwr Busnes i gael Arian Mân.
• Cefnogi gwaith athrawon mewn gwersi a rhoi cyngor technegol i staff a disgyblion. Cynorthwyo'r
staff yn ystod wythnos gweithgareddau. Llungopïo ar gyfer yr adrannau.
• Cefnogi staff yr adrannau trwy oruchwylio disgyblion mewn gwersi ymarferol.
• Cyd-gysylltu gwaith yn y labordy i sicrhau y gwneir defnydd effeithlon o offer.
• Cynorthwyo ar deithiau maes yr adrannau.
• Goruchwylio arholiadau allanol gwyddoniaeth.
Labordai:
• Rheoli'r stoc o gemegion ac offer.
• Cyllidebu ac archebu adnoddau. Ffeilio copïau o archebion a nodiadau trosglwyddo yr adrannau,
gan gael gafael arnynt yn rhwydd pan fo gofyn. Cyflenwi deunydd ysgrifennu ar gyfer yr adrannau.
• Cadw cofnodion, e.e. o sesiynau ymarferol disgyblion, dulliau tracio, canlyniadau ayyb.
• Cynnal ac atgyweirio offer a chyfarpar yr adrannau.
Gweithdai:
• Cynorthwyo gyda pharatoi deunyddiau ar gyfer gwersi deunyddiau gwrthiannol.
• Arolygu, gwasanaethu a threfnu atgyweirio arbenigol yn rheolaidd i'r holl arfau, peiriannau ac offer
perthynol.
• Arolygu, gwasanaethu ac atgyweirio arfau ac offer pŵer cludadwy yn rheolaidd.
• Paratoi, torri a pheiriannu pren, metelau a phlastigion.
• Darganfod ffynonellau ac archebu defnyddiau a gwasanaethau.
• Dyletswyddau tacluso rheolaidd yn y gweithdai a'r ardaloedd storio.
• Casglu defnyddiau ar gyfer gwaith ymarferol.
• Gofalu am system sugno llwch (yn cynnwys archwiliad/dyddiol/wythnosol/llenwi cofrestrau
wythnosol). Gwagio rheolaidd o'r cafn casglu llwch, trefnu profion LEV blynyddol.
• Cario allan archwiliad rheolaidd o holl beiriannau trwm ar gyfer pwrpas diogelwch.
Iechyd a Diogelwch:
• Sicrhau bod yr holl weithdrefnau iechyd a diogelwch yn cael eu deall a'u dilyn yn gywir.
• Gwaredu gwastraff cemegol a biolegol yn ddiogel.
• Cadw storfeydd yr adrannau yn drefnus, yn enwedig yr hydoddiannau fflamadwy a'r storfa
cemegion gwenwynig
• Sicrhau bod offer yn cael eu labelu a'u glanhau yn drylwyr a bod cemegion, cyffuriau a defnyddiau
eraill yn cael eu storio yn briodol.
• Cynnal a chadw ffynonellau ymbelydrol yn ddiogel.
• Cynnal a chadw labordai'r adran gan gynnwys ymdrin ag arllwysiadau cemegol a thoriadau.
• Mynychu cyrsiau pan fo gofyn e.e. cwrs COSHH, 'Gweithio o Uchder,' Trafod â Llaw' ayyb.
• Cynnal a chadw offer nwy a thrydan yn yr adrannau a gwirio am ddiffygion
• Cynorthwyo gyda chynnal asesiadau risg pan fo gofyn.
• Cadw golwg ar y Cypyrddau Gwyntyllu yn yr adran a chofnodi canlyniadau profion.
• Gwirio pwyntiau dŵr yr ysgol yn rheolaidd am Glefyd y Llengfilwyr a chofnodi canlyniadau profion.
• Diweddaru staff ar unrhyw faterion Iechyd a Diogelwch, gan gynnwys diweddariadau Peryglon
Iechyd a Diogelwch CLEAPPS.
Cyffredinol:
• Gyrru Bws Mini'r ysgol pan fo angen e.e. ar gyfer cyrsiau Coleg, ymweliadau addysgol ayyb.
• Trwsio/amnewid unrhyw oleuadau diffygiol/sydd wedi torri yn yr adrannau.
• Cadw cofnodion o anfonebau a gwariant yr adrannau yn rheolaidd.
• Lle mae'n bosib helpu'r ysgol gyda materion technoleg gwybodaeth ee ail-gyflenwi argraffwyr /
llungopiwyr gydag inc. Clirio paperjams mewn argraffwyr / llungopiwyr. Delio gyda 'byrddau gwyn
Active' diffygiol a thaflunyddion a chysylltu gyda chwmnïau TG i archebu caledwedd pan fydd
angen.
• Dadflocio a glanhau sinciau'r labordai.
• Cynorthwyo gyda'r Profion PAT blynyddol.
Arall:
• Gweithio'n adeiladol, rhagweithiol ac yn hyblyg fel rhan o dîm, gan ddeall swyddogaethau a
chyfrifoldebau ysgol.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill, fel y bydd eu hangen yn rhesymol gan y Pennaeth ac
sydd yn gyson gyda'r lefel gyffredinol o gyfrifoldeb o fewn y swydd.
Sut i Ymgeisio:
Ffurflen gais a Llythyr cais, i sylw Mrs Marian Williams, PA y Pennaeth:
marian.williams@syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymru
Neu, gellir cyflwyno cais am y swydd arlein ar wefan Cyngor Gwynedd.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i gysylltu gyda'r Pennaeth,
Mr Clive Thomas. yshopen@syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymru
Dyddiad Cau:
10.00yb, 23 Mawrth 2023.
Dyddiad Cyfweld:
I'w gadarnhau.
Bydd y penodiad yn amodol ar wiriad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol
a chofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg.