MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Botwnnog, Pwllheli,
  • Testun: Cymorth
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Ysgrifennydd- Ysgol Botwnnog

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADRAN ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL BOTWNNOG
(Cyfun 11 - 16; 476 o ddisgyblion)

Yn eisiau ar gyfer: Cyn gynted a phosib.

YSGRIFENNYDD

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac ymroddedig ar gyfer y swydd uchod. Prif gyfrifoldeb y swydd fydd i roi cefnogaeth weinyddol ym mhrif swyddfa 'r ysgol.
Mae'r rôl yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant yr ysgol a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn fedrus, yn frwdfrydig, yn ymroddgar ac yn awyddus i lwyddo.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos (i'w drafod)
(Bydd yn ofynnol i chi weithio 40 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal â bod ar gael i weithio cyfwerth a'ch oriau wythnosol yn ychwanegol tu hwnt i'ch oriau arferol.)

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S1 pwyntiau 12-17 (£21,823 - £23,916 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth Mr Dylan Minnice (Rhif ffôn 01758 730220) neu trwy e-bost: Dylan.MINNICE@botwnnog.ysgoliongwynedd.cymru

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Ms. Elin Hughes, Ysgrifenyddes, Ysgol Botwnnog, Botwnnog, Pwllheli, Gwynedd (Rhif Ffôn:01758 730220; Ffacs:01758 730439; e-bost: Dylan.MINNICE@botwnnog.ysgoliongwynedd.cymru. Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau

DYDDIAD CAU: 12:00 Y.H, DDYDD LLUN, 20FED O FAWRTH, 2023.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

MANYLION PERSON

Bydd angen i'r person llwyddiannus feddu ar sgiliau priodol i gyflawni'r dyletswyddau uchod:
• Gallu bod yn hyblyg ac ymateb i sefyllfaoedd fel maent yn codi;
• Gwethio fel rhan o dîm;
• Rheoli amser a blaenoriaethu;
• Sgiliau da wrth gyfathrebu gyda phobl ar y ffôn a wyneb i wyneb yn y Gymraeg a'r Saesneg;
• Sgiliau cyfrifiadurol da;
• Derbyn gwybodaeth a'i gyfeirio at y bobl priodol;
• Gweithio'n drefnus i gyfyngiadau amser;
• Delio gyda gwybodaeth sensitif a chyfrinachol;
• Delio gydag arian.

Swydd Ddisgrifiad

YSGRIFENNYDD

YSGOL BOTWNNOG

SWYDD DDISGRIFIAD

Pwrpas y Swydd

Pwrpas y swydd hon yn bennaf yw cwblhau nifer o dasgau gweinyddol yn effeithiol a chynnig gwasanaeth gweinyddol i Dîm Rheoli'r Ysgol ac i raddau llai'r staff dysgu. Mae'r dyletswyddau yn amrywiol a hefyd yn amrywio o ddiwrnod i ddiwrnod

1 TASGAU DESG FLAEN YR YSGOL
1.1 Bod yn gyfrifol am dderbynfa'r ysgol gan groesawu ymwelwyr i'r ysgol
1.2 Cynnal trefn yn y swyddfa
1.3 Derbyn galwadau ffôn, negeseuon ffacs ac e-bost a negeseuon eraill gan ymateb yn briodol iddynt
1.4 Agor a dosrannu'r post boreol a threfniadau postio dyddiol
1.5 Ymdrin ag ymholiadau disgyblion

2 CYLLIDOL (MEWN CYDWEITHREDIAD GYDA'R SWYDDOG GWEINYDDOL)
2.1 Mewn cydweithrediad a'r Swyddog Gweinyddol bod yn gyfrifol am y drefn "Cyfrif Imprest (petty cash)"
2.2 Derbyn a gweinyddu incwm am werthiannau, teithiau, ayyb.
2.3 Archebu deunyddiau a defnyddiau i sicrhau rhediad esmwyth y swyddfa.
2.4 Gweinyddu'r drefn cynllun gwersi offerynnol ar gais y rheolwr llinell.
2.5 Gweinyddu cyfrifon banc amrywiol (e.e. y Gymdeithas Rieni)
2.6 Archebu, cadw stoc a gwerthu'r wisg ysgol
2.7 Cadw cofnod a derbyn incwm am osodiadau
2.8 Casglu dyfynbrisau a bwcio bysus
2.9 Cydweithio gyda'r gegin i dderbyn incwm ac i rannu gwybdoaeth cinio am ddim
2.10 Gweithredu fel trysorydd y Gymdeithas Rhieni a gweinyddu'r Clwb Codi Arian

3 SIMS (Bydd hyfforddiant ar gael pe bai angen)
Ymdrin â nifer o agweddau o system gyfrifiadurol SIMS ond yn benodol:
3.1 Sicrhau fod manylion disgyblion yn gywir drwy fewnbynnu a chynnal yr wybodaeth yn gyfredol a chywir yn system SIMS a chynnal system ffeilio effeithiol
3.2 Gweinyddu'r system gofrestru a delio gydag absenoldebau lle nad oes rheswm
3.3 Cofnodi disgyblion sydd yn cyrraedd yn hwyr neu gadael yn fuan
3.4 Argraffu ystod o adroddiadau yn ôl yr angen
3.5 Cofnodi absenoldebau staff

4 CYSWLLT Â'R RHIENI
4.1 Cyfathrebu gyda rhieni yn ôl yr angen drwy ffonio, ebostio a llythyru.
4.2 Mewn cydweithrediad â'r UDRH sicrhau trefniadau Nosweithiau Rhieni

5 PERSONEL
5.1 Anfon adroddiadau absenoldeb staff i'r sir
5.2 Anfon ffurflenni goramser, goruchwylio amser cinio, athrawon llanw
5.3 Dan arweiniad yr UDRH - trefnu llanw yn ôl yr angen
5.4 Gweinyddu ceisiadau am swyddi

TASGAU ERAILL

Hefyd, bydd yr Ysgrifenyddes, ar y cyd ag aelodau eraill o'r Tîm Gweinyddol, yn:

• darparu gwasanaeth ysgrifenyddol i'r Pennaeth a'r Tîm Rheoli, gan gynnwys teipio, ffeilio, cadw dyddiadur a.y.b.
• ymgymryd â thasgau gweinyddol cyffredinol eraill
• dirprwyo yn absenoldeb y Swyddog Gweinyddol, dan gyfarwyddyd y Pennaeth
• cyd-weithio gyda'r tîm gweinyddol i gasglu a bancio arian yn ôl yr angen
• cyd-weithio gyda'r tîm gweinyddol i ddelio gyda postio dyddiol gan gadw cofnodion manwl
• ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd rhesymol arall sy'n gydnaws â natur gyffredinol y swydd ar gais y Pennaeth
• cyd-weithio gyda'r swyddog arholiadau i weinyddu arholiadau

Mae'r uchod yn disgrifio'r ffordd y disgwylir i'r deilydd weithredu a chwblhau'r dyletswyddau a nodir. Gellir amrywio'r dyletswyddau i gyfarfod â newidiadau mewn gofynion ysgol yn ôl disgresiwn rhesymol y Pennaeth.