MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Cymorth
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £15,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Dros dro

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Dros dro

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Sant Christopher

Llwyn Stockwell

Wrecsam

LL13 7BW

Ffon: 01978 346910

Pennaeth: Mrs Margaret Davies

CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 2

G04 £15,176 - £15,452 y flwyddyn

Yn ystod y tymor yn unig - 38 wythnos

32.5 awr yr wythnos

Dros dro tan 31/08/2023

Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi Cymhorthydd Addysgu Lefel 2.

Gweithio dan gyfarwyddyd/arweiniad y staff addysgu/staff uwch, i gyflawni rhaglenni gwaith/gofal/cymorth, i ganiatáu mynediad i ddisgyblion at ddysgu a chynorthwyo'r athro i reoli'r disgyblion a'r ystafell ddosbarth.

Gallai'r gwaith gael ei wneud yn yr ystafell ddosbarth neu'r tu allan i'r brif ardal addysgu.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r Ysgol.

Dychwelwch y ceisiadau at Lorna Roberts: RobertsL210@HwbCymru.net

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: 31/03/2023

CYFWELIADAU: TBA