MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £30,000.00 - £35,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Gweithiwr Cymdeithasol Addysg

Gweithiwr Cymdeithasol Addysg

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

G09 £32,909 - £35,411 y flwyddyn

G10 £36,298 - £39,493 y flwyddyn

Mae yna gyfle i recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol Addysg i ymuno â thîm prysur a chefnogol yn Wrecsam.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cefnogaeth a her i ysgolion a theuluoedd ar faterion sy'n ymwneud yn bennaf â phresenoldeb yn yr ysgol, gwaharddiad a diogelu yn unol â deddfwriaeth, canllawiau a pholisi adrannol a chenedlaethol.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gynnal asesiadau a gallu cydlynu cefnogaeth i ddefnyddwyr gwasanaethau. Mae'n rhaid i'r ymgeisydd fod yn gyfrannwr tîm da gyda sgiliau trefnu, rheoli amser a chyfathrebu ardderchog.

Mae profiad gwaith llys yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.

Rhaid i ymgeiswyr allu siarad Cymraeg yn rhugl gan y byddant yn gweithio yn ein hysgolion cyfrwng Cymraeg.

I gael ymholiadau pellach am y swydd, cysylltwch â John Hodgson - 07808787761

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.