MANYLION
  • Lleoliad: Northop, Flintshire, CH7 6AA
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £28,751 - £44,442
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Darlithydd Adnoddau Dynol

Darlithydd Adnoddau Dynol

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…

Teitl y Swydd: Darlithydd Adnoddau Dynol

Lleoliad: Llaneurgain
Math o Gontract: Parhaol, llawn amser (Bydd rhannu swydd yn cael ei ystyried)
Cyflog: £28,751 - £41,324
Mae gennym swydd wag ar gyfer Darlithydd Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) i addysgu ein cyrsiau Lefel 3 a 5 a modiwlau Adnoddau Dynol ar y rhaglen radd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhoi cyngor addysgol, cymorth a chwnsela i’r holl fyfyrwyr ac yn gweithredu fel tiwtor personol pan fo angen. Yn ogystal â hyn bydd y darlithydd yn dysgu gwersi wedi’u hamserlennu, paratoi deunyddiau addysgu, marcio gwaith myfyrwyr, cysylltu â chyrff arholi a Phrifysgolion a goruchwylio arholiadau. Bydd yr ymgeisydd yn gyfrifol am gynhyrchu a chwblhau dogfennau erbyn y terfynau amser y cytunwyd arnynt fel: cofrestri, cynlluniau gwaith, cofnodion gwaith, adolygiadau cyrsiau, dogfennau dadansoddi cyrsiau, adroddiadau myfyrwyr, adroddiadau absenoldeb, ffeiliau cwrs ac ati.
Byddant yn cysylltu â thiwtoriaid meysydd busnes eraill ynglŷn ag adnoddau, datblygu cwricwlwm, adroddiadau myfyrwyr a materion cysylltiedig eraill.


Gofynion Hanfodol (rhestr lawn ar y Fanyleb Swydd sydd ynghlwm)

Yn gymwys hyd at Lefel 6 o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol
Cymhwyster addysgu neu hyfforddi (er enghraifft TAR, Tystysgrif Addysg neu C&G 7407)
Sgiliau TGCh cadarn
Gallu datblygu a defnyddio ystod o dechnegau dysgu ac addysgu
Yn cydnabod ac yn gwneud myfyrwyr yn ymwybodol o'u cryfderau a'u hanghenion datblygu
Yn gallu asesu canlyniadau dysgu a chyflawniadau dysgwyr
Gallu ymdrin ag ymddygiad amhriodol yn y dosbarth mewn modd effeithiol ac amserol
Gallu paratoi deunyddiau addysgu ysgrifenedig a gweledol effeithiol
Dangos gwerthfawrogiad o werthoedd a moeseg Addysg Bellach
Gallu adfyfyrio a gwerthuso ar eu perfformiad eu hunain a chynllunio ar gyfer eu hymarfer yn y dyfodol.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.