MANYLION
  • Lleoliad: Various,
  • Testun: Cymorth
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £15,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Arbenigol Cynnal Ymddygiad x4

Cymhorthydd Arbenigol Cynnal Ymddygiad x4

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD

Dyddiad Cychwyn: cyn gynted a phosib

4 x Cymhorthydd Arbenigol Cynnal Ymddygiad

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol. Mi fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gyda disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a/ neu faterion Cynhwysiad ac yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.

Lleolir y swyddi o fewn ysgolion a chanolfannau arbenigol ardal Gwynedd a Mon ond Cyngor Gwynedd fydd y cyflogydd ar gyfer y Gwasanaeth. Fydd y swyddi yma yn cynnwys elfen o deithio.

Oriau gwaith: 30
(39 wythnos y flwyddyn tymor ysgol gan gynnwys dyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd).

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7 - 11 (sef £15,614 i £16,790) y flwyddyn, yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gellir cael manylion pellach a/neu sgwrs anffurfiol am y swydd drwy gysylltu ag Ellen Rowlands Rheolwr Cynhwysiad ar rif ffon 01286 679007.

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd.

Bydd y cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth diogelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn.

DYDDIAD CAU: 10:00y.b , Dydd Iau, 23 Mawrth, 2023.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL

• Y gallu i gydweithio ag ystod eang o bobl. Gallu i ddelio â phobol yn hyderus, pwyllog a chwrtais.
• Trefnu amser yn effeithiol
• Sgiliau cyfathrebu clir
• Gallu cydweithio fel aelod o dîm
• Gallu i weithio'n hyblyg
• Brwdfrydedd
• Trwydded yrru llawn a mynediad at drafnidiaeth
• Y gallu i gyflwyno gwaith cywir a thaclus yn rheolaidd

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
• Sgiliau rhif/llythrennedd da
• NVQ Lefel 3 ar gyfer Cymorthyddion Addysgu
• Hyfforddiant mewn strategaethau perthnasol i gefnogi anghenion dysgu ychwanegol a/neu chynhwysiad
Nam Clyw: Lefel 2 mewn BSL
Nam Golwg: Lefel 2 mewn Braille
Cyfathrebu a Rhyngweithio: Ymrwymiad i ddilyn hyfforddiant Lefel 2/3 yn y maes penodol (e.e. Elklan)
Anghenion ADY Penodol: Ymrwymiad i ddilyn Cymhwyster neu Ddiploma ym maes Anhawsterau Dysgu Penodol
Cynnal Ymddygiad: Ymrwymiad i ddilyn Tysysgrif neu Ddiploma Lefel 2/3 (e.e. NVQ) neu gyrsiau penodol yn y maes (e.e. Webster-Stratton)

DYMUNOL

Hyfforddiant mewn strategaethau perthnasol i gefnogi anghenion dysgu ychwanegol a/neu chynhwysiad
Nam Clyw: Lefel 3 mewn BSL
Nam Golwg: Dealltwriaeth gadarn mewn o leiaf 5 côd Braille
Synhwyraidd / Corfforol / Meddygol - Tysysgrif neu Ddiploma mewn Adsefydlu a Symudedd Nam Synhwyraidd
Cyfathrebu a Rhyngweithio: Cymhwyster Elklan Lefel 2 neu uwch
Anghenion ADY Penodol: Cymhwyster neu Ddiploma ym maes Anhawsterau Dysgu Penodol
Cynnal Ymddygiad: Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 2/3 (e.e. NVQ) neu fod wedi mynychu cyrsiau penodol yn y maes (e.e. Webster-Stratton)

• Hyfforddiant cymorth cyntaf fel y bo'n briodol

PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL

• Profiad o weithio gyda disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol.

DYMUNOL

Profiad o:
• Ddefnyddio dulliau Canolbwyntio ar yr Unigolyn
• Gyfrannu a gweithredu Cynlluniau Datblygu Unigol

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL

• Ymwybodol o Strategaeth ADYaCh Gwynedd ac Ynys Môn
• Dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth ADYaCh a'r Cod Ymarfer
• Dealltwriaeth o anghenion amrywiol
• Sgiliau cyfathrebu da a chadarn gyda'r gallu i gyfathrebu yn effeithiol gyda phobl a pharchu'r angen i fod yn gyfrinachol.
• Sgiliau cyfrifiadur da - defnydd effeithlon o TGaCh i gefnogi dysgu.
• Y gallu i gyflwyno syniadau a strategaethau i gyd-weithwyr yn hyderus

DYMUNOL

• Dealltwriaeth o Ddulliau Canolbwyntio ar yr Unigolyn
• Dealltwriaeth o Gynlluniau Datblygu Unigol
• Dealltwriaeth gyffredinol o gyfnod cenedlaethol/sylfaenol, cwricwlwm, a rhaglen/strategaethau dysgu sylfaenol eraill fel y bo'n briodol.
• Dealltwriaeth sylfaenol o ddatblygiad a dysg y plentyn

ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad
Gallu cyflwyno pob agwedd o'r swydd ar lafar yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gystal â'i gilydd.

Darllen a Deall
Gallu defnyddio a dehongli'n gywir unrhyw wybodaeth o amrywiol ffynonellau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer cyflawni holl agweddau'r swydd.

Ysgrifennu
Gallu cyflwyno gwybodaeth yn ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg mewn modd gwbl hyderus gan ddefnyddio'r dull a'r iaith fwyaf priodol ar gyfer y pwnc a'r gynulleidfa.

Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir
rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd.
Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.

Cefnogi disgyblion ystod oedran 3 - 16 oed fel ymateb i anghenion disgyblion yn arbennig y rhai gydag anghenion emosiynol, ymddygiadol a chymdeithasol i ddileu rhwystrau ar gyfer dysgu yn ysgolion a Chanolfannau Gwynedd a Môn fel rhan o dîm integredig ADY a Chynhwysiad.

Gweithredu'r Côd Ymarfer Anghenion Arbennig o ran cefnogi disgyblion.

Sefydlu perthynas weithiol, effeithiol gyda'r disgyblion gan weithredu fel unigolyn proffesiynol.

I weithio o dan reolaeth a goruchwyliaeth Athro/awes Arbenigol Cynnal Ymddygiad. Bydd yr holl ddyletswyddau a amlinellir o fewn y swydd ddisgrifiad yn cael eu gweithredu o dan reolaeth a goruchwyliaeth athro/awes.

Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Ffôn symudol.
• Gliniadur
• Creu adnoddau, fel rhan o dîm, i ategu at fanc adnoddau i ysgolion
• Offer TGCh i gefnogi dysgu'r disgyblion

Prif Ddyletswyddau. .
Cefnogaeth i Ddisgyblion

• Darparu mewnbwn ymestyn allan i unigolion a grwpiau o blant yn eu hysgolion prif lif o dan arweiniad yr Athrawon Arbenigol Cynnal Ymddygiad, Uwch Seicolegydd Addysgol a'r Uwch Weithiwr Iechyd Meddwl, yn unol â gofynion y Fforwm Ardal ADYaCh, sydd yn datblygu iechyd meddwl, datblygiad emosiynol ac ymddygiadol y disgyblion.

• Darparu mewnbwn i grŵp o blant o fewn Canolfannau'r Tîm Cynnal Ymddygiad am gyfnod penodol o dan arweiniad yr yr Athrawon Arbenigol Cynnal Ymddygiad, Uwch Seicolegydd Addysgol a'r Uwch Weithiwr Iechyd Meddwl, yn unol â gofynion y Fforwm Ardal ADYaCh, sydd yn datblygu iechyd meddwl, datblygiad emosiynol ac ymddygiadol y disgyblion.

• Derbyn a goruchwylio disgyblion nad ydynt am gyfnodau yn dilyn rhaglen ddysgu arferol.

• Cymryd cyfrifoldeb am y grŵp o blant o fewn y Ganolfan Arbenigol am gyfnodau byr pan fo'r Athro/awes Arbenigol yn absennol ac yn darparu gwasanaeth yn y prif lif neu mewn Fforwm Ardal ADYaCh yn rheolaidd.

• Cynorthwyo staff dysgu o fewn y prif lif a'r Canolfannau gyda datblygu a gweithredu Cynllun Datblygu Unigol / Cynllun Cyfathrebu Unigol y disgyblion er mwyn hybu cynnydd yn eu iechyd emosiynol ac ymddygiadol.

• Cyd-weithio gydag Athrawon Arbenigol yn y maes Cynnal Ymddygiad ac asiantaethau eraill perthnasol gan sicrhau lefelau o ofal bugeiliol i unigolion o dan gyfarwyddyd staff dysgu.

• Cydweithio gyda Cymorthyddion o fewn yr ysgolion prif lif i fodelu pecynnau ymyrraeth effeithiol gyda'r disgyblion sydd yn cael sylw gan y tîm Cynnal Ymddygiad.

• Cefnogi'r ddarpariaeth therapiwtig ar gyfer disgyblion gydag anghenion ychwanegol ac yn arbennig anawsterau emosiynol ac ymddygiadol.

• Defnyddio TGCh yn effeithiol i gefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth disgyblion yn ei ddefnydd.

• Dan oruchwyliaeth yr Uwch Weithiwr Iechyd Meddwl, cyflwyno rhagleni hyrwyddo iechyd meddwl mewn grŵp bach neu un i un.

• Sicrhau gwybodaeth a chyngor i ddisgyblion i'w galluogi i wneud penderfyniadau a dewisiadau ar gyfer eu haddysg, eu hymddygiad a'u presenoldeb.

• Cefnogi a herio ymagwedd disgyblion gan hyrwyddo a chyfoethogi eu hunan-barch.

• Sicrhau adborth i ddisgyblion yng nghyd-destun eu cynnydd, eu llwyddiannau, ymddygiad a phresenoldeb.

Cefnogaeth i Athrawon:

• Sefydlu perthynas weithio gynhyrchiol gyda'r disgyblion a chydweithwyr.

• Darparu gwybodaeth ar gyfer asesiad cyfansawdd o anghenion a chynnydd y disgyblion.

• Creu a darparu pecynnau gwaith arbenigol i ddisgyblion yn unol â'u Cynllun Datblygu Unigol/ Cynllun Cyfathrebu Unigol/Cynllun Meddygol os yn berthnasol.

• Rhannu arferion da gyda staff o fewn yr ysgol a modelu technegau yn ôl yr angen.

• Ymateb i anghenion personol disgyblion a chynnig cyngor ynglŷn â datblygiad emosiynol, ymddygiadol, eu hiechyd, glendid a gofal.

• Cefnogi'r staff dysgu i ddatblygu trefniadau mentora disgyblion a sicrhau cymorth i unigolion bregus.

• Sicrhau trosglwyddiad buan ac effeithiol i ddisgyblion drwy gamau integreiddio penodol gan roi sylw i unigolion sy'n dychwelyd i ysgol wedi cyfnod absenoldeb.

• Cyfathrebu gydag ysgolion dalgylch ac asiantaethau eraill i gasglu gwybodaeth am unigolion am eu cynnydd.

• Sicrhau cefnogaeth briodol ar gyfer gweinyddu e.e. galwadau ffôn, delio gyda gohebiaeth, diweddaru data, gwybodaeth presenoldeb, gwaharddiadau.

• Bod yn ymwybodol, a gwerthfawrogi ystod o weithgareddau, cyrsiau, sefydliadau ac unigolion sydd ar gael i gynnig cymorth i unigolion i ychwanegu at eu profiadau dysgu.

• Sicrhau a defnyddio adnoddau arbenigol, cynlluniau ac offer i gefnogi disgyblion.

• Cefnogi mynediad disgyblion i adnoddau a strategaethau perthnasol i gyfoethogi eu haddysg.

• Cynorthwyo staff dysgu i gynllunio, dadansoddi ac addasu gweithgareddau dysgu fel bo'n briodol.

• Cyfrannu at Hyfforddiant Mewn Swydd i athrawon/cymorthyddion o dan arweiniad yr Uwch Seicolegydd Addysg, Athrawon Arbenigol ac Uwch Weithiwr Iechyd Meddwl o fewn y Tîm Cynnal Ymddygiad.

• Sefydlu perthynas adeiladol gyda rhieni/gofalwyr, gan gyfnewid gwybodaeth, hwyluso eu cefnogaeth i bresenoldeb, mynediad a dysgu eu plentyn a chefnogi cysylltiadau cartref ysgol a chymunedol.

• Bod yn ymwybodol ac yn effro i wahaniaethau gan sicrhau bod disgyblion yn cael cyfleoedd cyfartal ar gyfer mynediad i addysg.

Cyffredinol:

• Ymwybyddiaeth o bolisïau a gweithdrefnau ADY a diogelu plant, iechyd a diogelwch cyfrinachedd a diogelu data, gan gyfeirio unrhyw bryder i'r person perthnasol.

• Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol ein tîm integredig ADY a Chynhwysiad.

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill, fel y bo'n ofynnol.

• Adnabod hunan gryfderau ac ardaloedd arbenigedd a defnyddio'r rhain i gynghori a chefnogi eraill.

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.