MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol y Traeth, Abermaw,
  • Testun: Pennaeth Adran
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £55,000.00 - £60,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Pennaeth Ysgol Traeth - Abermaw

Pennaeth Ysgol Traeth - Abermaw

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION CYNRADD

PENNAETH
YSGOL Y TRAETH
(Cynradd 3 - 11 oed: 201 o ddisgyblion)

CYFLOG: Ysgol Grŵp 2 ar y Raddfa Arweinyddiaeth L9 - L15 (£54,918 - £63,656)

Dyddiad Dechrau: 1 Medi 2023

Mae Llywodraethwyr yr ysgol uchod yn chwilio am berson ymroddedig ac egnïol gyda gweledigaeth glir sy'n meddu ar y cymhwyster CPCP (NPQH) erbyn dyddiad dechrau'r swydd neu sydd eisoes mewn swydd barhaol fel Pennaeth.

Mae'r gallu i addysgu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol i'r swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Cynorthwyol: Cynradd (rhif ffôn 07837706517) a/neu Gadeirydd y Llywodraethwyr, Mr Neil Pigdon (rhif ffôn 07341575779).

Dylid cyflwyno cais am y swydd ar-lein. Os nad yw hyn yn bosibl, yna gallwch gysylltu gyda Kathryn Roberts, Arweinydd Canolfan Fusnes Addysg rhif ffôn 01758 704233 e-bost kathrynroberts@gwynedd.llyw.cymru

Bydd angen i'r ymgeisydd gyflwyno cais yn ddwyieithog ar gyfer y swydd hon.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallant gychwyn yn yr ysgol.

Rhagwelir cynnal Cyfweliadau Proffesiynol 27 Mawrth 2023 a Chyfweliadau Swyddogol 29/30 Mawrth 2023 ar gyfer y swydd.

DYDDIAD CAU: 12 O'R GLOCH, DYDD LLUN, 20 MAWRTH 2023.

(The above is an advertisement for the post of a Headteacher at Ysgol Y Traeth for which the ability to teach through the medium of Welsh and English is essential. The Council will require a Disclosure and Barring Service certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwyr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

SAFONAU PROFFESIYNOL ADDYSGU AC ARWEINYDDIAETH.pdf

Manylion Person

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL

Brwdfrydig ac ymroddgar.
Ymrwymedig i welliant parhaus.
Gallu ysbrydoli, ysgogi a gosod her i eraill.
Ymgorffori gweledigaeth yr ysgol.
Sgiliau rhyngbersonol o'r radd flaenaf.
Y gallu i weithio dan bwysau a chyfarfod â therfynau amser.
Y gallu i berthnasu yn dda gyda phlant a gwarchod eu hawliau unigol.
Gallu arddangos deallusrwydd emosiynol a sgiliau perthnasu deinamig.
Y gallu i hoelio sylw cynulleidfa amrywiol.
Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

HANFODOL

Gradd Anrhydedd.
Statws athro/athrawes wedi cymhwyso.
CPCP neu brofiad diweddar/cyfredol perthnasol o fod yn Bennaeth.
Tystiolaeth o ddatblygiadau proffesiynol parhaus perthnasol.

DYMUNOL
Gradd Uwch neu gymhwyster cyfwerth.

PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL

Tystiolaeth o brofiad cyson a pherthnasol o arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol.
Profiad o ddatblygu strategaethau ysgol gyfan mewn meysydd allweddol megis addysgu a dysgu a/neu lles a chynhwysiad.
Profiad o sefydlu ac adeiladu partneriaethau gyda rhieni, y gymuned a gyda phartneriaid eraill.
Profiad perthnasol fel Pennaeth, Dirprwy neu aelod o Dîm Arwain a Rheoli mewn ysgol.

DYMUNOL
Tystiolaeth o weithio'n effeithiol gyda llywodraethwyr.

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL

HANFODOL

Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau cyfoes mewn addysg yn lleol ac yn genedlaethol.
Meddu ar ddealltwriaeth eglur o egwyddorion dysgu o ansawdd, addysgu ac asesu yn y sector uwchradd/cynradd.
Meddu ar ddealltwriaeth gadarn o brosesau gwella'r ysgol.
Meddu ar wybodaeth gadarn o strategaethau gweithredu sy'n sicrhau safonau uchel o ymddygiad a phresenoldeb.
Gallu paratoi strategaethau ar gyfer sicrhau cynhwysiad cymdeithasol, amrywiaeth a mynediad.
Meddu ar wybodaeth dda o rôl y corff llywodraethol ac yn gallu gweithredu strategaethau gwelliant parhaus ac atebolrwydd.
Meddu ar wybodaeth dda o'r cwricwlwm ehangach tu hwnt i'r ysgol a'r cyfleoedd ar gyfer disgyblion a chymuned yr ysgol.
Meddu ar agwedd gynhwysol a'r sgiliau i sicrhau llwyddiant i bob disgybl gyrraedd ei lawn botensial.
Dangos brwdfrydedd personol at y defnydd o'r iaith Gymraeg/Cwricwlwm Cymreig yn yr ysgol.
Deall gofynion cynllunio ariannol strategol, rheolaeth gyllidebol ac egwyddorion gwerth gorau.
Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau diweddaraf addysg yn genedlaethol.

ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad - Lefel Uwch

Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.

Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Darllen a Deall - Lefel Uwch

Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.

Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.

Ysgrifennu - Lefel Uwch

Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnoleg ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosibl cael cymorth i wirio'r iaith).

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd
• Sicrhau bod plant a phobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Darparu arweinyddiaeth gorfforaethol a rheolaeth broffesiynol ar gyfer yr ysgol.
• Sicrhau gwelliant parhaus a llwyddiant i'r ysgol yn sgil cyfleoedd dysgu ac addysgu o safon uchel i'r holl ddisgyblion a safonau cyrhaeddiad uchel ym mhob agwedd o waith yr ysgol.
• Creu amgylchedd dysgu cyffrous, ysgogol, chynhyrchiol a diogel ar gyfer y disgyblion a'r staff.
• Mae'r ysgol hon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Staff, cyllid, offer ac adnoddau'r ysgol.

Prif Ddyletswyddau
Amodau

Mae gofynion y swydd hon i'w cyflawni yn unol â darpariaethau Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) ac o fewn amrediad dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y ddogfen honno. Mae'r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.

Rhaid i ddyletswyddau proffesiynol pennaeth yr ysgol hon gael eu cyflawni yn unol â'r darpariaethau'r Deddfau Addysg, Gorchmynion a Rheoliadau sy'n weithredol dan y Deddfau Addysg, offeryn llywodraethu'r ysgol, unrhyw ddogfen ymddiriedolaeth sy'n berthnasol i'r ysgol ac unrhyw gynllun sy'n cael ei baratoi neu ei gynnal gan Yr Awdurdod Lleol dan Adran 48 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(87).

Rhaid cyflawni'r dyletswyddau yn unol ag unrhyw reolau, rheoliadau neu bolisïau a wnaethpwyd gan gorff llywodraethu'r ysgol ac y mae'r corff hwnnw yn gyfrifol amdanynt; ac yn yr un modd unrhyw reolau, rheoliadau neu bolisïau a wnaethpwyd gan Yr Awdurdod Lleol o ran materion nad yw'r corff llywodraethu yn gyfrifol amdanynt.

Gweithredu'r 'Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth'. Dylid hybu nodweddion, gwerthoedd a dealltwriaeth broffesiynol, cynllunio gwaith yn hyderus gan osod targedau i'w monitro a'u hasesu wrth gynnal amgylcheddau dysgu effeithiol, lle mae pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel a hyderus.

Mae'r pennaeth yn uniongyrchol atebol i'r Corff Llywodraethol a Phennaeth Addysg Statudol Gwynedd. Disgwylir i ddeilydd y swydd hon adrodd yn ysgrifenedig o leiaf unwaith pob tymor i gorff llywodraethol yr ysgol ar faterion sydd o fewn maes eu cyfrifoldeb strategol a rheolaeth dydd i ddydd yn unol ag arweiniad yr Awdurdod Lleol.

Gellir dirprwyo cyfrifoldebau swydd pennaeth yr ysgol hon i ddirprwy bennaeth mewn modd sy'n cyd-fynd â'u hamodau cyflogaeth, gan ystyried natur a graddau eu cyfrifoldebau rheoli, a chan gynnal cydbwysedd rhesymol i bob aelod o staff rhwng gwaith a wneir yn yr ysgol a gwaith a wneir yn rhywle arall.

Mae'r pennaeth yn gyfrifol am sicrhau:

• rheolaeth effeithiol yr ysgol o ddydd i ddydd;
• y caiff y weledigaeth ar gyfer yr ysgol ei diffinio'n eglur, ei bod yn hysbys, yn cael ei chyd-rannu, yn ddealladwy ac yn cael ei gweithredu gan bob rhan-ddeiliad;
• bod rheolaeth effeithiol ac effeithlon o adnoddau cyllidol a dynol yr ysgol er mwyn gwireddu'r weledigaeth gytunedig yn elfen hanfodol o'r rôl ynghyd a'r gallu i gydweithio gydag eraill;
• gweithdrefnau hunan-arfarnu o ansawdd, annog gweithredu yn seiliedig ar ganlyniadau arfarniad o'r fath a chyflwyno disgrifiad cydlynus, dealladwy a manwl-gywir o berfformiad yr ysgol i lywodraethwyr ac ystod o ran-ddeiliaid;
• hyrwyddo diwylliant o ddisgwyliadau uchel ar bob lefel a bod dysg disgyblion yn ganolog i gynllunio a rheoli adnoddau, gweithdrefnau monitro, adolygu ac arfarnu;
• datblygu partneriaeth a chydweithio gyda darparwyr eraill yn y sector addysg ac ehangu'r cwricwlwm trwy gyfeirio'n uniongyrchol at gyfoeth ac amrywiaeth y cymunedau hynny sy'n gwasanaethu'r ysgol;
• sefydlu strategaethau, gweithdrefnau effeithiol a deall bod arferion wedi eu sefydlu i ddiogelu plant a staff a chydweithredu gydag asiantaethau perthnasol i amddiffyn plant;
• sicrhau fod yr ysgol yn gwarchod gwerthoedd yr iaith Gymraeg ac yn dilyn Polisi Iaith yr Awdurdod.

Cyfrifoldebau Proffesiynol

Mae disgwyl i'r pennaeth arwain yr Uwch Dim Rheoli (UDRh) a chyflawni'r dyletswyddau proffesiynol fel a ganlyn:

• Dangos arweiniad cadarn er mwyn creu'r amgylchedd sy'n galluogi athrawon fodloni'r 'Safonau Athrawon wrth eu Gwaith' ar ddiwedd unrhyw gyfnod sefydlu a pharhau i'w bodloni gydol eu gyrfa dysgu. Dylid hybu nodweddion, gwerthoedd a dealltwriaeth broffesiynol staff gan sicrhau fod ganddynt y sgiliau angenrheidiol er mwyn cynllunio gwaith yn hyderus gan osod targedau i'w monitro a'u hasesu wrth gynnal amgylcheddau dysgu effeithiol, lle mae pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel a hyderus.
• Sicrhau trefniadaeth, strategaeth a datblygiad ysgol gyfan trwy ddarparu arweinyddiaeth strategol gyffredinol a, gydag eraill, arwain, datblygu a chefnogi cyfeiriad strategol, gweledigaeth, gwerthoedd a blaenoriaethau'r ysgol.
• Ymgynghori a chyfathrebu'n effeithiol gyda'r corff llywodraethu, staff, disgyblion, rhieni a gofalwyr gan sicrhau atebolrwydd llawn.
• Arwain a rheoli newid a hyrwyddo ymrwymiad rhanddeiliaid gan sicrhau cysondeb gweithredu ar draws yr ysgol.
• Cydweithio gyda chydweithwyr a gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill yn yr ysgol a thu hwnt i'r ysgol,
gan gynnwys cyrff ac asiantaethau allanol perthnasol er mwy sefydlu a chynnal diwylliant sy'n hyrwyddo rhagoriaeth.
• Gweithio ar draws yr ysgol i sicrhau bod y weledigaeth strategol yn arwain at amcanion cytunedig a chynlluniau gweithredol fydd yn cynnal a hyrwyddo safonau a chynnydd.
• Hyrwyddo cwricwlwm hyblyg a pherthnasol ar draws yr ysgol a'i holl safleoedd sy'n ymateb i'r gwahaniaethau mewn perfformiad gan arwain ar asesu a thracio, a sicrhau y defnyddir data a gwybodaeth i yrru gwelliannau a thracio cynnydd yn effeithiol.
• Cymell staff ac arwain a rheoli'r addysgu a'r dysgu ar draws yr ysgol gyfan gan sicrhau, ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig, bod athro'n cael ei neilltuo yn amserlen yr ysgol i bob dosbarth neu grŵp o ddisgyblion.
• Herio tanberfformiad ar bob lefel a sicrhau ymyrraeth a dilyniant priodol.
• Cydlynu strategaethau ar gyfer anwytho staff newydd, arwain, rheoli a datblygu'r gweithlu gan sicrhau ymglymiad i strategaethau arfarnu, rheoli perfformiad ac unrhyw ofynion datblygiad proffesiynol staff gydag ystyriaeth lawn o'r disgwyliad ynghylch cydbwysedd iach rhwng gwaith ac ymrwymiadau eraill pob aelod o staff.
• Hyrwyddo perthnasoedd gwaith cytøn yn yr ysgol a chynnal perthnasoedd gyda sefydliadau sy'n cynrychioli athrawon ac aelodau eraill o weithlu'r ysgol.
• Hyrwyddo diogelwch a lles disgyblion a staff a sicrhau trefn a disgyblaeth dda ymhlith disgyblion a staff.
• Rheoli, trefnu a lleoli adnoddau yn yr ysgol, gan gynnwys staff, mewn modd sy'n addysgiadol effeithiol, yn hyrwyddo nodau a gwerthoedd yr ysgol ac yn cael eu targedu at wella safonau addysgol pob disgybl.
• Mynychu cyfarfodydd a chynnal gweithdrefnau cyllidol sy'n sicrhau bod yr ysgol yn cynnig gwerth am yr arian cyhoeddus mae'n ei wario er mwyn cynnal a gwella ansawdd yr addysg a ddarperir ac er mwyn codi safonau cyflawniad y disgyblion sydd yn ein gofal.
• Adeiladu perthynas waith llwyddiannus gyda'r corff llywodraethol a datblygu eu rôl fel cyfeillion beirniadol.
• Datblygu, gweithredu a gwerthuso polisïau, arferion a gweithdrefnau'r ysgol yn rheolaidd a sicrhau y cedwir yr holl ysgol yn hysbys a chyfoes ynglŷn â rheoliadau a deddfwriaeth.
• Cymryd rhan mewn trefniadau i werthuso ac adolygu eich perfformiad eich hunan a pherfformiad athrawon eraill a staff cymorth a, phan fo hynny'n briodol, eu hyfforddiant a'u datblygiad proffesiynol, gan gynnwys gofynion ymsefydlu.
• Penderfynu, mewn cysylltiad ag unrhyw gais perthnasol, a yw athro yn yr ysgol yn bodloni'r safonau sy'n berthnasol i'w cyfnod gyrfa gyfredol.
• Sicrhau y cedwir yr ysgol yn hysbys a chyfoes ynglŷn â datblygiadau a blaenoriaethau lleol a chenedlaethol, a'u gweithredu a'u datblygu fel bo'r angen.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r cyngor/ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.

Mae gan y Pennaeth yr hawl i egwyl resymol yn ystod pob diwrnod ysgol, a disgwylir iddynt drefnu bod rhywun addas yn gyfrifol am gyflawni eu swyddogaethau fel pennaeth yn ystod yr egwyl honno.

Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Gweithio tu allan i oriau gwaith arferol yn ôl y gofyn.

Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau'r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na'r lefel cyfrifoldeb.