MANYLION
  • Lleoliad: Conwy, Conwy, LL32 8ED
  • Testun: Athro
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £28,316 - £43,603
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Saesneg

Athro/Athrawes Saesneg

Ysgol Aberconwy
Rydym yn awyddus i benodi Athro/Athrawes Saesneg brwdfrydig a llawn cymhelliant gyda’r gallu i ddysgu hyd at lefel TGAU, ar gyfer Medi 2023. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn athro rhagorol yn y lle cyntaf sy’n arwain drwy esiampl ac yn cefnogi’r gyfadran yn ei chais i gyflawni ei thargedau uchelgeisiol. Rydym yn annog ceisiadau gan athrawon gydag unrhyw brofiad sy’n teimlo y gallant ychwanegu gwerth i gyfadran sydd eisoes yn effeithiol iawn a ffynnu mewn amgylchedd dynamig a brwdfrydig.

Rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus:
• Fod yn athro Saesneg/ANG gydag ymarfer dosbarth sy’n ‘Dda’ neu’n ‘Rhagorol’ yn gyson
• fod yn eiriolwr brwd dros y pwnc sy’n cyfrannu’n effeithiol i welliannau adrannol ac ysgol gyfan
• allu addysgu ar draws yr ystod oedran a’r ystod gallu lawn rhwng 11-16 oed.
• fod yn awyddus iawn i fod yn Athro Dosbarth cefnogol
• ddangos gallu ac awydd i wneud cyfraniad llawn i fywyd yr ysgol
• fod â disgwyliadau uchel ohonynt hwy eu hunain ac eraill
• fod yn gyfathrebwr da gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol
• fod yn hyblyg ac yn aelod da o dîm

Mae’r Adran Saesneg yn ganolbwynt yn Ysgol Aberconwy; rhywle lle mae myfyrwyr yn cael cyfle i ragori. Dros y tair blynedd diwethaf, llwyddodd yr adran i sicrhau cyfraddau uwch na’r lefelau cenedlaethol cyfartalog o ran nifer o fesurau, gan gynnwys graddau A-C. Yn ôl ein canlyniadau arholiad diweddaraf (2019) roedd ein cyfradd basio TGAU yn 69%, gyda sgôr pwyntiau llythrennedd cyfartalog o 40. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag adran flaengar, gan weithio’n galed i ddatblygu cyflwyniad y pwnc yn yr ysgol, i roi profiadau dysgu ystyrlon i ddisgyblion yn ogystal â chyfleoedd allgyrsiol ychwanegol gan gynnwys siaradwyr gwadd, teithiau (lleol a chenedlathol), teithiau i’r theatr a dathlu Diwrnod Llyfr y Byd!

Yn gyfnewid rydym yn cynnig:
• Ymrwymiad cryf i ddatblygiad proffesiynol;
• Ysgol â dyheadau uchel a chyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth;
• Cyfle i helpu i lywio addysgu a dysgu a'n cwricwlwm amgen;
• Tîm ymroddedig a chefnogol o staff proffesiynol a llywodraethwyr ;
• Cysylltiadau cryf ag ysgolion lleol eraill ar gyfer gweithio mewn partneriaeth a chefnogaeth;
• Ysbryd cymunedol cryf;
• Lle bywiog a diddorol i weithio ynddo.

Mae’n gyfnod cyffrous i ymuno ag Ysgol Aberconwy, ysgol gyfun gymysg sy’n cynnwys mwy na 1000 o ddisgyblion 11 i 18 oed. Mae campws newydd, eang yr ysgol wedi’i leoli ar lannau prydferth Afon Conwy, yn nhref ganoloesol Conwy, sydd ar arfordir Gogledd Cymru ac yn agos iawn i Barc Cenedlaethol Eryri. Fel ysgol MCP mae safon ein hadnoddau a’n gwaith cynnal a chadw yn eithriadol o dda ac rydym wedi datblygu enw da iawn yn lleol am ansawdd ein gofal bugeiliol yn ogystal â'n llwyddiant academaidd. Bydd niferoedd yr ysgol wedi codi 30% dros y pum mlynedd diwethaf ym mis Medi, ac rydym wedi datblygu canolfannau adnoddau arbenigol i gefnogi plant â dyslecsia, awtistiaeth ac anghenion dysgu eraill.

Lawrlwythwch y Pecyn Gwybodaeth i Ymgeisydd i gael rhagor o wybodaeth am y rôl hon: https://www.aberconwy.conwy.sch.uk/cy/job-opportunities/
JOB REQUIREMENTS
Lawrlwythwch y Pecyn Gwybodaeth i Ymgeisydd i gael rhagor o wybodaeth am y rôl hon.

https://www.aberconwy.conwy.sch.uk/cy/job-opportunities/