MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Nyrs Ysgol
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £31,498 - £36,642
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 09 Mai, 2023 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Nyrs Coleg

Nyrs Coleg

Coleg Gwyr Abertawe
Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl:

Darparu gwasanaeth cynghori iechyd proffesiynol i’r myfyrywryr a darparu arweiniad a chyngor ar faterion iechyd myfyrwyr i’r staff perthnasol. Hyrwyddo Iechyd a Lles ar draws y Coleg.

Rhan-amser (22 awr yr wythos)
Yn Ystod y Tymor (40 wythnos y flwyddyn)
Parhaol
Pro-Rata: £16,626 - £19,341

Cyfrifoldebau Allweddol:

Cynllunio a darparu Rhaglen Hyrwyddo Iechyd misol, wedi’i deilwra i fynd i’r afael â materion iechyd perthnasol megis iechyd rhywiol, byw’n iach, ysmygu a.y.b
Gweithio’n agos â staff y gyfadran, Rheolwr Profiad a Lles Dysgwyr a’r Cydlynydd Cymorth i Ddysgwyr er mwyn asesu anghenion meddygol a chymorth y myfyrwyr sydd ag anghenion dysgu, iechyd corfforol a meddyliol.
Sicrhau bod pob trip yn cael ei fonitro ar gyfer cyflyrau meddygol a sicrhau bod arweinyddion y tripiau yn ymwybodol o sut i gefnogi’r cyflyrau, lle y bo angen gwneud hynny.

Amdanoch chi:

Nyrs gofrestredig ar ran berthnasol o’r gofrestr.
Profiad o weithio â phobl ifanc
Gallu darganfod datrysiadau positif i broblemau.

Buddion:

6.29 Wythnos o Wayliau Blynyddol
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
Parcio am ddim
Disgownt ar gyfer aelodaeth Campfa Chwaraeon - £60 y flwyddyn
Mynediad i hyfforddwr ffitrwydd staff/maethegydd/dosbarthiadau ymarfer corff
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.


Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).