MANYLION
  • Lleoliad: Deeside, Flintshire, CH5 4BR
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £28,751 - £44,442
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 06 Ebrill, 2023 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth
Teitl y Swydd: Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy
Math o Gontract: Rhan amser (0.6 Cyfwerth ag amser llawn, 22.2 awr yr wythnos), Parhaol
Graddfa Gyflog: £28,751 - £44,442 (Pro rata) (Mae pwyntiau ystod cyflog uwch UP2 ac UP3 yn amodol ar dystiolaeth o ddilyniant blaenorol i'r Golofn Gyflog Uwch)
Rydym yn chwilio am Ddarlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gyflwyno ein cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol o lefel 2 i lefel 3.
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y swydd hon, rhaid i chi gael profiad profedig a chymhwysedd ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol a meddu ar gymwysterau addysgu perthnasol. Mae'r rôl hefyd yn gofyn am sgiliau Cymraeg, a gellir darparu hyfforddiant i gefnogi'r gofyniad hwn.
Fel Darlithydd yng Ngholeg Cambria bydd gofyn i chi ddarparu dysgu ymarferol ac yn y dosbarth i’n dysgwyr. Hefyd byddwch yn gyfrifol am gofrestru myfyrwyr ar gyrsiau priodol a darparu cyfleoedd hyfforddi, mentora a dysgu yn ogystal â sicrhau diogelwch a lles myfyrwyr bob amser.
Gofynion Hanfodol
Cymhwyster Lefel 4 o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol
Cymhwyster Addysgu (e.e. Tystysgrif Addysg, TAR, C&G 7407)
Gallu canfod, dehongli a chymhwyso gwybodaeth benodol i’w harfer
Sgiliau Llythrennedd Digidol Da
Gallu datblygu a defnyddio ystod o dechnegau addysgu a dysgu
Mae sgiliau Cymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon.