MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend, Bridgend, CF31 3DF
  • Testun: Cynghorydd Gyrfa
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Gorffen: 30 September, 2023
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £22,938 - £28,343
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Hyfforddwr Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Hyfforddwr Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Coleg Penybont
Yn y rôl hon, byddwch yn darparu sesiynau gwybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd am yrfaoedd i fyfyrwyr a chleientia30th Sepid o brosiectau allanol eraill e.e. Twf Swyddi Cymru+

 

Byddwch hefyd yn darparu sesiynau cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr, ac yn cynorthwyo myfyrwyr gyda thasgau cynnydd a gyrfaoedd allweddol, gan gynnwys datganiadau personol UCAS, ceisiadau UCAS, creu CV, datblygu sgiliau personol, gwneud ceisiadau am swyddi, technegau cyfweliad, a chwilio am swyddi. 

 

Os oes gennych brofiad o weithio gyda phobl ifanc mewn rôl gynghorol a phrofiad o ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i ystod eang o unigolion, hoffem glywed gennych! 
JOB REQUIREMENTS
Profiad o weithio â phobl ifanc mewn rôl ymgynghorol.
Gwybodaeth am y broses UCAS.
Profiad o gydlynu digwyddiadau ymgysylltu aml-asiantaeth.
Profiad o ddefnyddio data a systemau gwybodaeth am y farchnad lafur i dywys penderfyniadau a darpariaeth gwasanaeth.
Profiad o ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i ystod eang o unigolion.
Profiad yn y sector Addysg Bellach/Uwch neu’r sector addysg.
Diploma mewn Arweiniad Gyrfaol Rhan 1 a 2 neu Ddiploma ôl-raddedig mewn Arweiniad Gyrfaol gyda chymhwyster mewn Arweiniad Gyrfaol neu NVQ Lefel 4 (neu uwch) mewn Cyngor ac Arweiniad (neu barodrwydd i weithio tuag at hyn a’i ennill o fewn cyfnod cytunedig).
Graddau TGAU A-C mewn Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg.
Y gallu i weithio erbyn dyddiadau cau allanol.
Sgiliau gwrando rhagorol.
Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar bapur ac ar lafar.
Ymwybyddiaeth ddiwylliannol.
Blaengarwch.
Sgiliau rhagorol o ran ysgrifennu adroddiadau.
Gallu datrys problemau.
Dibynadwy.
Gonestrwydd ac uniondeb.
Ymroddiad.
Y gallu i ymateb i anghenion newidiol y myfyrwyr.
Chwaraewr tîm rhagorol.
Y gallu i weithio dan bwysau a chadw’n bwyllog.