MANYLION
- Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
- Testun: Cyfarwyddwr
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Blynyddol
- Salary Range: £57,960 - £57,960
- Iaith: Saesneg
- Dyddiad Cau: 20 Mawrth, 2023 11:59 y.p
This job application date has now expired.
Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rôl:
Mae cyfle cyffrous wedi codi i arwain a datblgu sgiliau craidd holl ddysgwyr AB a DSW i hwyluso nod y coleg o gyflawni ardderchowgrwydd. Fel rhan o Dîm RHeoli’r Coleg bydd gofyn i chi oruchwylio’r bartneriaeth Ysgolion 14-19 ac agenda NEET yr ysgolion, gan gefnogi’r cwricwlwm a phrosiectau’r adrannau hyn.
Amser llawn – 37 awr yr wythnos
Parhaol
Graddfa Rheoli - £57,960
Cyfrifoldebau Allweddol:
Arwain, ysbrydoli a chymell staff i gefnogi dysgwyr a datblygu eu sgiliau a sicrhau canlyniadau rhagorol.
Darparu arweinyddiaeth strategol a rheoli adrannau Sgiliau, Ysgolion a NEET yn effeithiol, gan gefnogi’r rheolwyr hyn i gynllunio cwricwlwm sy’n ymatebol a pherthnasol, wrth sicrhau’r arbedion effeithlonrwydd gorau posib.
Hyrwyddo a datblygu sgiliau a chyfleoedd entrepreneuraidd i holl ddysgwyr y Coleg.
Parhau i ddatblygu cyfleoedd cydweithio effeithiol gydag ysgolion lleol sy’n hybu recriwtio a chynnig cyfleoedd ychwanegol a phriodol i ddisgyblion lleol.
Amdanoch chi:
Byddwch yn meddu ar radd a chymhwyster addysgu.
Profiad o reoli’r broses o gynllunio a gweithredu cwricwlwm.
Profiad o weithredu strategaethau gwelliant parhaus.
Profiad o ddatblygu a rheoli prosiectau cydweithredol llwyddiannus.
Meddu ar rinweddau arloesol a chreadigol ac angerdd am greu profiadau a chyfleoedd gwych i ddysgwyr.
Buddion:
37 diwrnod o wyliau blynyddol, a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
Parcio am ddim
Mynediad i hyfforddwr ffitrwydd staff/maethegydd/dosbarthiadau ymarfer corff
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.