MANYLION
  • Testun:
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwywyr Teithio wrth Gefn

Cynorthwywyr Teithio wrth Gefn

Cyngor Sir Caerfyrddin
Disgrifiad

Uned Trafnidiaeth - Lleoliadau amrywiol ar draws Sir Gaerfyrddin

Rhan amser - Yn ystod y tymor, fel bydd yr angen yn codi.

Bydd gweithwyr achlysurol yn cael eu talu ar gyfradd o £22,366 pro rata (£11.59 yr awr).

Mae Uned Cludiant Teithwyr Cyngor Sir Caerfyrddin yn darparu cludiant o'r cartref i'r ysgol/uned i ddisgyblion/myfyrwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, gan ddefnyddio tacsis neu fysiau mini amrywiol ledled Sir Gaerfyrddin a siroedd cyfagos.

Mae tîm o Gynorthwywyr Teithwyr yn gyfrifol am oruchwylio, gofalu a diogelu disgyblion / myfyrwyr yn ystod y siwrneiau rhwng y cartref a'r ysgol/uned berthnasol.

Mae'r Awdurdod am recriwtio nifer o Gynorthwywyr Teithwyr achlysurol i ddarparu gwasanaeth pan fo absenoldeb ac i fod ar gael yn ôl trefniant ad-hoc, a hynny ar fyr rybudd weithiau. Bydd cludiant yn cael ei ddarparu i ymgeiswyr llwyddiannus o leoliad addas cyn dechrau ac ar ôl cwblhau'r llwybr i'r ysgol (teithiau bore a phrynhawn).

Os ydych yn chwilio am swydd hyblyg sy'n gallu rhoi boddhad mawr, efallai mai hon yw'r swydd i chi ac edrychwn ymlaen at glywed gennych a'ch croesawu i ymuno â'n tîm.

Byddai'r oriau'n amrywio, fel arfer ar ddechrau ac ar ddiwedd y diwrnod ysgol. Darperir iwnifform a hyfforddiant parhaus perthnasol.

Mae angen gallu sylfaenol yn y Gymraeg i gyflawni'r swydd hon. Gellir darparu cymorth i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.

Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon cyn i chi ddechrau yn y swydd.

I gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Meirion R.M. Jones drwy ffonio 01267 228322.

Cliciwch ar y ddolen yn y blwch 'Eitemau a lawrlwythwyd' i weld copi o'r Proffil Swydd.

Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm 'Gwneud cais' am y swydd hon.

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr: