MANYLION
- Lleoliad: Garreg Llwyd, Llanelli,
- Testun: Datblygiad y Plentyn
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Disgrifiad
35 awr yr wythnos.
Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant a phobl ifanc?
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â gwasanaeth preswyl plant Cyngor Sir Caerfyrddin.
Rydym yn buddsoddi'n sylweddol yn ein darpariaeth breswyl ac yn cydweithio â'r gwasanaethau i oedolion i sicrhau proses bontio gadarnhaol i oedolion ifanc ag anghenion ac anableddau cymhleth.
Rydym yn chwilio am staff sydd â'r gwerthoedd, y cymhelliant a'r ymrwymiad cywir i weithio yn y rôl werth chweil ond heriol hon.
Byddwch yn dod yn rhan o dîm sy'n darparu amgylchedd ysgogol a meithringar i alluogi ein plant a'n pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial.
Nid yw'n hanfodol bod gennych brofiad blaenorol o weithio mewn cartrefi preswyl gan ein bod yn cydnabod bod unigolion yn dod ag ystod eang o brofiadau a sgiliau trosglwyddadwy.
Rydym yn cynnig pecyn ymsefydlu a hyfforddi ardderchog, gan gynnwys eich cefnogi i ennill cymhwyster lefel 3 mewn gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc, os nad oes gennych hyn eisoes.
Bydd gofyn i chi weithio sifftiau ar sail rota.
Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda'r hwyr, ar benwythnosau ac ar wyliau banc.
Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Bydd angen ichi fod â gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Natasha Harries ar 01269 598348 / NHarries@sirgar.gov.uk
Cliciwch ar y ddolen yn y blwch 'eitemau a lawrlwythwyd' i weld copi o'r Proffil Swydd.
Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm 'Gwneud Cais' am y swydd hon.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr: