MANYLION
- Lleoliad: Tonypandy, Rhondda Cynon Taf, CF40 1NY
- Testun: Gweithiwr Cymorth Dysgu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Blynyddol
- Iaith: Saesneg
- Dyddiad Cau: 10 Mawrth, 2023 12:00 y.p
This job application date has now expired.
Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu (0.4) - Ysgol Gymunedol Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu (0.4)
Dosbarth Cynnal Dysgu ar gyfer disgyblion ag Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig
yn Ysgol Gymunedol Aberdâr
Graddfa Gyflog: Gradd 6 £22,129 x 30.73% a Lwfans Anghenion Addysgol Arbennig £1,347 (pro rata)
Dyddiad Dechrau: Medi 2023
Rydyn ni'n dymuno cyflogi cynorthwy-ydd cynnal dysgu ar gyfer y ddarpariaeth uchod. Y dyddiad dechrau yw mis Medi 2023. Bydd y swydd yn cynnwys cynorthwyo'r athro / athrawes dosbarth i weithredu rhaglenni unigol, a chefnogi'r disgyblion yn yr ysgol ac mewn dosbarthiadau prif ffrwd.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n rhan o garfan a dangos parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant arbenigol addas mewn perthynas ag anghenion addysgol ychwanegol.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Rachel Williams, Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant, Addysg a Dysgu Gydol Oes yn Nhŷ Trevithick neu e-bostio Rachel.williams3@rctcbc.gov.uk.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 10 Mawrth 2023
Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi ar wefan recriwtio'r Cyngor.
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R HOLL STAFF A BENODIR GAN Y CYNGOR.
YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.