MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF105AL
  • Pwnc: Technoleg Gwybodaeth
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Mawrth, 2023 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Dadansoddydd Cymorth TG

Urdd Gobaith Cymru
Teitl y Swydd: Dadansoddydd Cymorth TG

Math o gontract: Swydd barhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos)

Graddfa: Gweithredol 5 : £28,505 - £31,757 y flwyddyn

Lleoliad: Un o swyddfeydd yr Urdd ar hyd a lled Cymru



Amdanom ni

Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.

Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.

Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.

Y Swydd

Rydym yn chwilio am Ddadansoddwr Cymorth TG medrus a llawn brwdfrydedd i ymuno â'n tîm! Os oes gennych chi brofiad sylweddol yn darparu cymorth TG, angerdd am ddatrys problemau, a chefndir mewn cefnogi rhwydweithiau a systemau data, rydyn ni eisiau clywed gennych chi!

Fel ein Dadansoddwr Cymorth TG, byddwch yn gyfrifol am ddarparu cymorth technegol i staff yr Urdd yn ogystal a rhanddeiliaid allanol megis athrawon, aelodau a rhieni / gwarcheidwaid.

Disgwylir i chi ddatrys problemau caledwedd a meddalwedd, a sicrhau gweithrediad llyfn ein systemau TG. Byddwch yn gallu gwneud diagnosis cyflym, datrys problemau, a chyfathrebu'n effeithiol gyda rhanddeiliaid a chydweithwyr.

O bryd i’w gilydd, byddwn angen i chi weithio oriau hir yn ein digwyddiadau cyffrous, gan gynnwys Eisteddfod Yr Urdd a Twrnament Rygbi 7 pob ochr yr Urdd. Bydd yr amser dros ben oriau cyffredin yn cael eu had dalu ar adegau eraill.



Am fwy o fanylion cysylltwch â Dafydd Lewis (Pennaeth Technoleg Gwybodaeth) ar 07976003341 neu dafyddlewis@urdd.org



Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org



Dyddiad Cau – 13eg o Fawrth

Dyddiad Cyfweld – I’w drefnu efo’r ymgeiswyr.



Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.