MANYLION
  • Lleoliad: Yale, Wrexham, LL12 7AB
  • Testun: Cynghorydd Cyflogadwyedd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 07 Mawrth, 2023 11:54 y.p

This job application date has now expired.

Anogwr Cyflogadwyedd

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd:  Anogwr Cyflogadwyedd

Lleoliad: Iâl - gyda’r gallu i deithio i safleoedd eraill pan fo angen

Math o Gontract: Parhaol/Llawn Amser (Amser Tymor yn Unig) 

Cyflog £25,203 - £27,587

Mae gennym swydd wag ar hyn o bryd ar gyfer Anogwr Cyflogadwyedd i weithio yn Siop Swyddi Wrecsam, i gynorthwyo dysgwyr i wella eu sgiliau cyflogadwyedd a chael cyfleoedd cyflogaeth. Mae gofyn i’r Anogwr Cyflogadwyedd hefyd roi cymorth Cyflogadwyedd ar safle Llysfasi fel y cytunwyd arno gyda phennaeth cynorthwyol y safle.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhoi’r sgiliau cyflogadwyedd hanfodol i ddysgwyr sydd eu hangen arnynt i sicrhau cyfleoedd lleoliad gwaith neu symud ymlaen i waith gwirfoddol/ prentisiaethau/ cyflogaeth trwy weithdai grŵp a chyfarfodydd un i un. Byddant yn rhoi cymorth priodol gydag ysgrifennu CV/cais a sgiliau cyfweliad. Byddant yn cysylltu â staff a dysgwyr Addysg Bellach yn effeithiol ac yn gweithio’n agos gyda’r tîm ymgysylltu â chyflogwyr i greu a datblygu perthnasau cyflogwyr.

Yn ogystal â hyn byddant yn cynorthwyo gyda digwyddiadau Gyrfaoedd Cyflogwyr a digwyddiadau ehangach Cambria trwy gydol y flwyddyn academaidd. Byddant yn cynnal adolygiadau hyfforddeion achlysurol fel y nodir yng ngofynion cytundebol Llywodraeth Cymru, ac yn paratoi a chytuno ar weithgareddau hyfforddi i ddiwallu anghenion sefydliadau ac unigolion.

Gofynion Hanfodol

Cymhwyster Lefel 3 perthnasol

Sgiliau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol cadarn

Profiad blaenorol o gysylltu â chyflogwyr

Profiad blaenorol o weithio gyda rhanddeiliaid allweddol addas

Profiad perthnasol o weithio gyda phobl ifanc 

Profiad perthnasol o ddarparu cymorth bugeiliol/cyflogadwyedd

Rheoli amser ac adnoddau yn effeithiol ac yn llwyddiannus er mwyn cyflawni targedau heriol

Hyrwyddo a gweithredu ymarfer iach a diogel

Agwedd “Gallu gwneud” tuag at dargedau a datrys problemau

Gallu dangos ymrwymiad at bwysigrwydd Diogelwch ac ymwybyddiaeth o hynny

Trwydded yrru lawn, cerbyd addas gydag yswiriant busnes

Dealltwriaeth ac ymrwymiad i fesur a gwella ansawdd y gwasanaethau sy’n cael eu darparu i ddefnyddwyr yn barhaus

Cydnabod pwysigrwydd sgiliau cyflogadwyedd

Gwybodaeth a phrofiad o randdeiliaid allweddol, a’r gallu i rwydweithio’n effeithiol

Deall pwysigrwydd bod ag empathi â defnyddwyr gwasanaethau

Dealltwriaeth gyffredinol dda o anghenion cymorth y dysgwyr ni waeth beth fo’u hoedran, eu cred, na lliw eu croen.

Hunan gymhelliant a pharodrwydd i ddysgu a datblygu sgiliau newydd 

Cymeriad cadarn ac onest sy’n gallu ennyn hyder mewn cleientiaid a chydweithwyr 

Awydd gwirioneddol i fanteisio i'r eithaf ar gyfle rhagorol ar gyfer dysgu a gyrfa 

Gallu cyfathrebu’n effeithiol ar bob lefel ac i weithredu syniadau

Awydd gwirioneddol a’r sgiliau rhyngbersonol i ysbrydoli eraill a rhoi cynlluniau ar waith yn frwdfrydig

Deallusrwydd emosiynol

Dealltwriaeth ac ymrwymiad i ethos sefydledig Coleg Cambria fel partneriaeth rhwng dysgwyr, staff, rhieni, llywodraethwyr, a’r gymdeithas ehangach

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. 

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.  

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny. 

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau.  Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.