MANYLION
  • Lleoliad: Northop, Flintshire, CH7 6AA
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £28,751 - £44,442
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 13 Mehefin , 2023 12:58 y.b

This job application date has now expired.

Darlithydd mewn Rheoli Prosiect

Darlithydd mewn Rheoli Prosiect

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth
Teitl y Swydd: Darlithydd mean Rheoli Prosiect
Lleoliad: Llaneurgain
Math o Gontract: Parhaol, Rhan-amser (efallai y gellir ystyried rhannu swydd)
Cyflog: £28,751 i £44,442 (Pro rata) Mae’r pwyntiau ystod cyflog uchaf UP2 ac UP3 yn amodol ar dystiolaeth o gynnydd blaenorol i’r Raddfa Dâl Uwch
Ar hyn o bryd mae gennym ni swydd wag ar gyfer Darlithydd mewn Rheoli Prosiect ar safle ein Hysgol Fusnes drawiadol yn Llaneurgain. Mae hwn yn gyfle cyffrous i arbenigwr Rheoli Prosiect profiadol archwilio gyrfa newydd mewn Hyfforddiant Masnachol.
Bydd y swydd hon yn ymdrin â chyflwyno PRINCE2 (6ed Argraffiad 2017), Rheoli Prosiect a hyfforddiant Agile. Bydd y swydd hefyd yn rhoi mewnbwn i fodiwlau perthnasol y Radd Rheoli Busnes Cymhwysol, a achredir drwy Brifysgol Abertawe a’i haddysgu yn Ysgol Fusnes Cambria, Llaneurgain.
Mae angen ystod eang o brofiad yn y maes pwnc hwn a chymhwyster PRINCE2 (hyfforddwr achrededig peoplecert). Os oes gennych y profiad a'r cymwysterau perthnasol yn y diwydiant, ond nid y cymwysterau addysgu / hyfforddi, byddai'r Coleg yn ystyried cefnogi ac ariannu'r cymhwyster hwn i chi.
Nid yw gwyliau'n sefydlog ar y calendr academaidd gan fod hyfforddiant ar alw gan ein Cleientiaid Masnachol.
Gofynion Hanfodol
Cymwys i Lefel 3 o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol
Cymhwyster Addysgu (e.e. Tyst Add, TARCE, C&G 7407, mae posibilrwydd y bydd angen cyllid i gwblhau cymhwyster addysgu / hyfforddi yn y Coleg)
Gallu datblygu a defnyddio amrywiaeth o dechnegau addysgu a dysgu
Adnabod a gwneud myfyrwyr yn ymwybodol o'u cryfderau a'u hanghenion datblygu
Y gallu i asesu canlyniadau dysgu a chyflawniadau dysgwyr
Gallu paratoi deunyddiau addysgu ysgrifenedig a gweledol effeithiol
Dangos gwerthfawrogiad o werthoedd a moeseg AB
Dangos dealltwriaeth o'r datblygiadau presennol yn eich maes arbenigol eich hun a ffyrdd o gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau o'r fath
Gallu dadansoddi a defnyddio gwybodaeth allweddol i lywio addysgu a dysgu


Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.