MANYLION
  • Lleoliad: Welshpool, Powys, SY217AD
  • Testun: Athro
  • Oriau: Rhannu swydd
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £25.00 - £30.00
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 06 Gorffennaf, 2022 7:37 y.p

This job application date has now expired.

Dros Dro, Yn ystod y Tymor yn Unig

Dros Dro, Yn ystod y Tymor yn Unig

Excell Supply
Math o Gytundeb: Dros Dro, Yn ystod y Tymor yn Unig
Oriau: 8:30-3:30
Lleoliad Gwaith: Sir Powys

Mae wneud rhywfaint o addysgu cyflenwol yn dewis gwych ar gyfer ANG, a hoffai Excell Supply siarad â chi i gynnig cefnogaeth ac arweiniad i chi yn ystod y camau cyffrous nesaf yn eich bywyd a'ch gyrfa.
Yn wythnosol, mae gennym ddwsinau o ANGau yn gweithio mewn ysgolion rydym wedi'u dethol yn ofalus er mwyn helpu ac ehangu eu profiad. Byddwn yn defnyddio ein perthynas gref â'n hysgolion i dynnu sylw at eich profiad a'ch cymeriad, a'ch cefnogi wrth i chi weithio i nodi pa amgylcheddau a pha fath o waith hoffech chi wneud fwyaf.

Bydd dewis i chi weithio mewn nifer o ysgolion fel athro cyflenwi, gan feithrin profiad a gwybodaeth amhrisiadwy ar gyfer camau cynnar eich gyrfa. Fel arall, mae’n well gan rai ANGau dewis gweithio ar sail hirdymor mewn un Ysgol i weithio fesul tymor tra'n cadw rhywfaint o hyblygrwydd i weithio mewn sawl ysgol nes iddynt ddarganfod beth sydd fwy addas iddynt.

Mae llawer o ANGau yn dewis cofrestru gyda ni ar gyfer gwaith o ddydd i ddydd tra’n aros am gyfweliadau am swydd lawn amser neu barhaol gan feithrin profiad addysg amhrisiadwy ac ennill cyflog yn yr un modd.
Rydym yn gofalu am ein hathrawon. Ffoniwch ni i gael gwybod mwy am y cyfleoedd sydd ar gael a sut y gallwn weithio gyda chi i lunio eich gyrfa.

Bydd disgwyl i ANGau a osodwn:
- Cofrestru efo’r CGA os dymunwch chi weithio yng Nghymru
- Bod â chyfrifoldeb addysgu dosbarth llawn
- Cymryd cyfrifoldeb am gynnydd y disgyblion
- Cynllunio, paratoi a chyflwyno gwersi
- Cynnal strategaethau rheoli ymddygiad cadarnhaol
- Paratoi a marcio gwaith disgyblion
- Rhoi adborth i rieni ar gynnydd disgybl
- Cymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau ysgol
- Bod â Statws Athro Cymwysedig (SAC) erbyn Gorffennaf 2021
Gallwch ddisgwyl gennym :
- Gwaith mewn Ysgolion lleol
- Digwyddiadau rhwydweithio cleientiaid ANG
- Cymorth gan ein Ymgynghorwyr Addysg ymroddedig
- Arsylwadau gwersi anffurfiol ac am ddim gan ein Gweithwyr Addysg proffesiynol a phrofiadol i roi adborth adeiladol i chi a'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau
- Cymorth i lenwi ffurflenni cais a pharatoi am gyfweliadau
- Telir i raddfa am bob lleoliad hirdymor
- Ymgynghorwyr lleol ymroddedig a phersonol sy’n gweithio'n rhagweithiol ar eich rhan
Os ydych yn ANG ac angen mwy o gymorth a chefnogaeth cysylltwch â ni os gwelwch yn dda. Mae Excell Supply yn cydnabod mor bwysig ydy hi i ofalu am ein ANG a'u helpu nhw yn eu dyddiau cynnar a’u cefnogi nhw drwy gydol eu gyrfa addysg.

Beth i'w ddisgwyl gan Excell-Supply
• Cyfraddau cyflog rhagorol
• Gwaith sy’n addas i chi - rydyn ni'n gwrando ar eich anghenion
• Cynllun Argymell Ffrind - yn ennill hyd at £100 fesul atgyfeiriad?
• Rheolwr Cyfrif dynodedig sydd â pherthynas gref ag ysgolion yn eich ardal
• Cyfle i gael swyddi parhaol
• Cymorth a chyngor gan ein Mentoriaid Proffesiynol gan gynnwys arsylwadau gwersi
• Mynediad i galendr llawn o gyfleoedd DPP ar ffurf ein Rhaglen Hyfforddi sesiynau Cyfnos a chyrsiau eraill a ddarperir yn ystod gwyliau'r ysgol

Fel aelodau o CRaCH (Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth) a Chwmni Cysgodol i'r DBS, (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) mae Excell Supply wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch a lles plant. Rhaid i bob ymgeisydd gael gwiriadau cyflogaeth trylwyr a bydd angen Tystysgrif DBS Manylach ar y Gwasanaeth Diweddaru. Bydd yn rhaid i ymgeiswyr heb DBS Manylach ar y Gwasanaeth Diweddaru wneud cais am un newydd.
Os ydych chi'n credu bod gennych y sgiliau priodol ar gyfer y rôl hon, gwnewch gais nawr os gwelwch yn dda. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn pythefnos y ddyddiad cau'r swydd wag dylech gymryd yn ganiataol yn anffodus bod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn.
Hysbysiad Pwysig - Er mwyn gwneud cais am y swydd uchod, rhaid i bob ymgeisydd fod yn glîr i weithio yn y DU, neu fod yn gymwys i wneud cais am fisa gwaith perthnasol. Nid yw Excell Supply yn gallu cynnig trwydded waith i unrhyw ymgeisydd na hwyluso trwyddedau gwaith ar gyfer unrhyw swydd wag ar ran un o'i chleientiaid. Polisi Excell Supply, fel mater o gwrteisi, yw ymateb i bob cais o fewn tri diwrnod gwaith. Fodd bynnag, oherwydd nifer y ceisiadau weithiau, ni allwn ymateb i ymgeiswyr unigol. Os nad ydym wedi cysylltu â chi o fewn tri diwrnod gwaith, mae eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn ac nid yw eich manylion wedi'u cadw. Mae croeso i chi wneud gais am unrhyw swydd arall y gallech ei weld yn y dyfodol. Mae Excell Supply yn Asiantaeth Recriwtio ac mae'n hysbysebu'r swydd wag hon ar ran un o'i Chleientiaid.

JOB REQUIREMENTS