MANYLION
  • Lleoliad: Llysfasi, Denbighshire, LL15 2LB
  • Testun: Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Gorffen: 31 August, 2023
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £22,218 - £23,088
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 17 Chwefror, 2023 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Ymgynghorydd Gwasanaethau Myfyrwyr

Ymgynghorydd Gwasanaethau Myfyrwyr

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Ymgynghorydd Gwasanaethau Myfyrwyr

Lleoliad: Llysfasi

Math o Gontract: Llawn Amser - Cyfnod Penodol tan 31 Awst 2023

Cyflog: £22,218 - £23,088; yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad.



Mae Coleg Cambria yn chwilio am Ymgynghorydd Gwasanaethau Myfyrwyr i ymdrin ag ymholiadau dysgwyr ac ymateb wrth ddarparu gwybodaeth addas, gan gynnwys ymholiadau wyneb yn wyneb, dros y ffôn, sgwrsio ar-lein a dros e-bost.

Mae hyn yn cynnwys cefnogi myfyrwyr gyda materion lles a rhannu unrhyw wybodaeth gyda dysgwyr am gludiant, yn ogystal â sicrhau bod trefniadau cludiant yn eu lle wrth gysylltu ag Awdurdodau Addysg Lleol, Arriva, cwmnïau bysiau, trefnu tocynnau bws i ddysgwyr a sicrhau fod y cofnodion yn cael eu diweddaru.

Gofynion Hanfodol

Safon dda o addysg (TGAU gradd D neu uwch mewn llythrennedd a rhifedd)
NVQ Lefel 3 mewn Cynghori a Rhoi Arweiniad
Profiad o roi cyngor ac arweiniad
Profiad o ymdrin â materion lles pobl ifanc
Profiad o ymdrin â sefyllfaoedd sensitif
Gwybodaeth am faterion cymorth i ddysgwyr
Gwytnwch personol i allu ymdrin ag ystod o sefyllfaoedd
Sgiliau TGCh da
Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog
Gallu sefydlu perthnasau gweithio effeithiol, gweithio’n dda mewn tîm
Yn hunan-hyderus ac yn dangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchfyd dysgu
Yn greadigol, yn arloesol ac yn llawn dychymyg
Yn agored ac yn ymatebol i anghenion pobl eraill
Gallu addasu’n gyflym i amgylchiadau newidiol a syniadau newydd
Wedi ymrwymo i ddatblygiad personol a phroffesiynol parhaus
Dangos empathi â diwylliant Cymru
Dangos ymrwymiad i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.