MANYLION
  • Lleoliad: Deeside, Flintshire, CH5 4BR
  • Testun: Swyddog iechyd a diogelwch
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £33,754 - £37,602
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 17 Chwefror, 2023 11:45 y.p

This job application date has now expired.

ARBENIGWR IECHYD, DIOGELWCH A CHYNALIADWYEDD

ARBENIGWR IECHYD, DIOGELWCH A CHYNALIADWYEDD

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd : Arbenigwr Iechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd
Lleoliad : Glannau Dyfrdwy
Math o Gontract : Parhaol - Llawn Amser
Cyflog: £33,754 - £37,602

Mae Coleg Cambria yn chwilio am Arbenigwr Iechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd i ymuno â’n tîm
Ystadau a Chyfleusterau. Byddwch yn atebol i'r Rheolwr Iechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd.
Byddwch yn gweithio i sicrhau bod trefniadau a gweithdrefnau iechyd, diogelwch a chynaliadwyedd ar
waith ar draws yr holl safleoedd gan sicrhau bod yr hyn mae'r coleg yn ei wneud yn cyflawni
cyfrifoldebau cytundebol/cyfreithiol. Cynorthwyo gyda datblygiad trefniadau a pholisïau iechyd,
diogelwch a chynaliadwyedd fel eu bod yn mynd y tu hwnt i safonau cyfreithiol a chyflwyno arfer
gorau cydnabyddedig.

Sefydlu a chynnal systemau monitro a chofnodi manwl gywir gan gynhyrchu adroddiadau yn ôl yr
angen. Cynnal archwiliadau Iechyd a Diogelwch, ymchwiliadau i ddamweiniau, asesiadau risg, fetio
yn y gweithle ac ymchwiliadau eraill yn ôl yr angen, gan gynhyrchu adroddiadau a chynlluniau
gweithredu.

Darparu cymorth a chyngor iechyd a diogelwch i staff y coleg, rheolwr y coleg a phenaethiaid
adrannau a rhanddeiliaid allanol yn ôl yr angen.

Gofynion Hanfodol
● Bydd gennych Radd berthnasol neu Ddiploma NEBOSH mewn iechyd a diogelwch (lefel 6)
neu gyfwerth.
● 3 blynedd neu ragor mewn swydd Iechyd a Diogelwch.
● Profiad o weithredu iechyd a diogelwch. Gwybodaeth gyfredol am ystod eang o
weithgareddau gwaith a gweithleoedd.
● Gwybodaeth gyfredol am ddeddfwriaeth yr Amgylchedd ac arfer da mewn cynaliadwyedd.
● Profiad o weithredu systemau iechyd a diogelwch, gan gynnal a rheoli prosiectau.
● Trefnu, gweithredu a darparu hyfforddiant iechyd a diogelwch.
● Dangos lefel dda o gymhwysedd TG a phecynnau meddalwedd yn ogystal â bod yn barod i
ddysgu sut i ddefnyddio meddalwedd neu systemau newydd.
● Profiad profedig blaenorol o ddatblygu, darparu ac asesu safonau HSS.
● Profiad profedig blaenorol o arwain, rheoli a hyfforddi tîm HSS.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.