MANYLION
  • Lleoliad: Llanelli, Carmarthenshire, SA14 7DT
  • Testun: Pennaeth
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £89,714 - £103,925
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 06 Chwefror, 2023 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Pennaeth - Ysgol Maes Y Gwendraeth

Pennaeth - Ysgol Maes Y Gwendraeth

Ysgol Maes y Gwendraeth
Pennaeth

I ddechrau Medi 2023, neu cyn gynted a phosib ar ôl

Dymuna’r Llywodraethwyr benodi Pennaeth deinamig ac ysbrydoledig sydd â’r weledigaeth, y cymhelliant a’r profiad i arwain yr ysgol i lwyddiant pellach.

Mae Maes y Gwendraeth yn ysgol gymunedol hapus ac iddi ethos Gymreig gref a champws modern.

Yn ogystal â gwasanaethu ei disgyblion prif ffrwd, rydym yn ymfalchïo yng nghymeriad unigryw ein canolfan arbenigol, Canolfan yr Eithin, a’i dylanwad positif ar ethos gynhwysol ein hysgol.

Rydym yn chwilio am unigolyn proffesiynol brwdfrydig sy’n meddu ar brofiad llwyddiannus ym maes arweinyddiaeth addysgol a fydd yn parhau i godi dyheadau a sicrhau cyfleoedd a deilliannau dysgu rhagorol cyson ar gyfer pob aelod o gymuned yr ysgol.

Lleolir yr ysgol yng nghalon Cwm Gwendraeth yn nwyrain Sir Gâr gyda’r ddalgylch yn ymestyn ar draws dyffrynnoedd Aman a Thywi ac mae’n cynnig y cyfle i arwain a datblygu talentau pob dysgwr a thîm o staff ymroddedig.

Mae’r Llywodraethwyr wedi ymrwymo i benodi Pennaeth sy’n:

• arweinydd â phrofiad o godi cyrhaeddiad a sicrhau’r cynnydd gorau i ddisgyblion

• angerddol dros Addysg Gymraeg gan gynnal a datblygu ymhellach ethos Gymraeg a Chymreig yr ysgol

• meddu ar y weledigaeth, y creadigrwydd a’r gallu i arloesi a gwneud y gorau o bob cyfle wrth arwain yr ysgol lwyddiannus hon

• gallu adeiladu ar y cryfderau cyfredol a datblygu ymhellach botensial yr holl ddysgwyr a’r staff

• ymrwymedig i gynnal safonau uchel o ran cyflawniad ac ymddygiad wrth gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru

• gallu ysbrydoli, ysgogi ac ennyn brwdfrydedd pobl ifanc a staff

• gyfathrebwr rhagorol sy’n gallu ymgysylltu’n effeithiol â rhanddeiliaid yr ysgol gan gynnwys plant, rhieni, staff a llywodraethwyr trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Gallwn ni gynnig:

• corff llywodraethol cefnogol

• grŵp ymroddedig o staff addysgu a chynorthwywyr

• disgyblion yn llawn cymhelliant, dycnwch a brwdfrydedd

• ethos ofalgar Gymreig lle mae pob unigolyn yn cael ei werthfawrogi

• awyrgylch hapus, croesawgar a chyfeillgar

Mae'r ysgol hon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac mae'n disgwyl i'r holl staff rannu'r ymrwymiad hwn. BYDD YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS YN DESTUN GWIRIAD MANWL GAN Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD (DBS).

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Dafydd Jones (Cadeirydd y Corff Llywodraethol) ar 01269 833900.

Dyddiad cau: Dydd Llun, 6ed o Chwefror 2023

Creu rhestr fer: Dydd Mercher, 15eg o Chwefror 2023

Cyfweliadau: Dydd Iau, 30ain a Dydd Gwener, 31ain o Fawrth 2023

Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael ei gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru cyn cael ei benodi.

Cliciwch ar y ddolen isod i weld copi o'r Proffil Swydd.

Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif Sir Gaerfyrddin er mwyn gwneud cais am y swydd hon.