MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £11,291 - £22,221
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Darlithydd Aml Sgiliau Adeiladu

Darlithydd Aml Sgiliau Adeiladu

Coleg Gwyr Abertawe
Mae cyfle wedi codi i unigolyn profiadol, dawnus a llawn cymhelliant ymuno â thîm yr Amgylchedd Adeiledig. Mae'r Amgylchedd Adeiledig yn adran uchelgeisiol gyda gweledigaeth glir o gyflawni ac ysbrydoli. Mae taith addysgol y myfyriwr wrth wraidd yr hyn a wnawn. Fel adran rydym yn addasu’n barhaus i ddiwydiant sy’n esblygu ac yn gweithio tuag at yr agenda ‘werdd’.

Bydd y darlithydd yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno amrywiaeth o strategaethau addysgu, dysgu ac asesu, monitro cynnydd dysgwyr a darparu adborth effeithiol trwy gydol y flwyddyn academaidd. Blaenoriaeth allweddol i Goleg Gwyr yw sicrhau rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gyfathrebwr hyderus, sy'n frwdfrydig ac yn ymroddedig wrth ysbrydoli a herio pob dysgwr i gyflawni ei botensial. Bydd gennych sgiliau trefnu a datrys problemau da a byddwch yn barod i weithio'n hyblyg. Mae cymhwyster addysgu cydnabyddedig yn ddymunol ond nid yn hanfodol. Os nad oes gennych gymhwyster addysgu byddwn yn eich cefnogi yn eich datblygiad wrth gael TAR.

Mae ein hadran Adeiladu yn ehangu ac rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad yn y meysydd masnach canlynol;

• Gwaith Saer
• Gwaith brics
• Paentio ac Addurno
• Plastro

Oriau ar gael: Rhan amser, 18.5 awr yr wythnos, £11,290.50 - £22,221.00 y flwyddyn (dibynnu ar gymwysterau a phrofiad).

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Mae Coleg Gwyr Abertawe’n cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ac yn cydnabod hefyd yr angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Rydym felly yn annog unigolion sy’n meddu ar Sgiliau Cymraeg da i wneud cais.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar

Cyflog: £21,506 - £42,326 y flwyddyn yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.

Buddion:
Hawl i gael gwyliau'r contract cenedlaethol ar sail pro-rata, 5 diwrnod cau pro-rata ac 8 gwyl banc pro-rata, Cynllun Pensiwn Athrawon, amrywiaeth o fanteision i gyflogeion gan gynnwys cynlluniau aberthu cyflog, disgowntiau staff a pharcio am ddim.