MANYLION
  • Lleoliad: Home based, Cardiff, CF24 5JW
  • Testun: arolygydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £67,100 - £78,500
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant (AEF)

Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant (AEF)

Estyn
Rydym yn chwilio am yr arweinwyr disgleiriaf a’r gorau sy’n gallu cyfrannu eu medrau, eu gwybodaeth a’u hamrywiaeth i’n gweithlu. Mae’n adeg gyffrous i ymuno â ni wrth i ni gymryd rôl arwyddocaol yn cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru, diwygio anghenion dysgu ychwanegol, gwella tegwch a gwaith y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd, ynghyd â pharhau â’n ffocws ar safonau ar draws addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Bydd eich profiad hefyd yn ein helpu i gynllunio a chyflwyno ein trefniadau arolygu newydd ar gyfer 2024. Byddwch yn chwarae rôl hanfodol wrth sicrhau bod arolygu yn brofiad cadarnhaol i bawb sy’n gysylltiedig.

Os ydych chi’n arweinydd ac yn meddu ar brofiad arbenigol mewn un neu fwy o’r meysydd addysg a hyfforddiant canlynol, gwnewch gais nawr:

• addysg gynradd (mae profiad o Ddysgu Sylfaen yn ddymunol ar gyfer un o’r swyddi hyn)
• addysg uwchradd
• ysgolion annibynnol prif ffrwd
• darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol
• dysgu yn y gwaith – prentisiaethau

Mae medrau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer nifer o’r swyddi hyn.

Fel arolygydd, byddwch yn rhoi dysgwyr wrth galon popeth a wnewch a bydd y cyngor a’r argymhellion y byddwch yn eu rhoi yn dylanwadu ar ddyfodol addysg a hyfforddiant ledled Cymru. Bydd eich gwaith yn cynnwys:
• Arwain neu gyfrannu at arolygiadau, adroddiadau a gwaith cynghori, gan gynnwys arolygiadau o ddarparwyr addysg a hyfforddiant unigol ac adolygiadau ‘thematig’ ehangach yn rhychwantu sampl o ddarpariaeth yng Nghymru
• Cymryd rhan mewn datblygiadau cenedlaethol a llunio cyngor proffesiynol sydd wedi’i lunio i lywio datblygiad polisi yn eich meysydd arbenigedd
• Ymgymryd â gwaith sydd wedi’i lunio i gipio a lledaenu arfer orau a welwn drwy ein rhaglenni arolygu
• Cyfrannu at ein twf, datblygiad a newid sefydliadol
• Sicrhau ansawdd adroddiadau arolygu ac arolygon thematig
• Paratoi a chyflwyno hyfforddiant cychwynnol a hyfforddiant diweddaru i arolygwyr allanol a digwyddiadau i randdeiliaid allweddol
• Bod yn ddelfryd ymddwyn ar gyfer gwerthoedd Estyn a gweithredu er lles dysgwyr bob amser
• Hybu a diogelu lles y plant, pobl ifanc ac oedolion bregus y byddwch yn dod i gysylltiad â nhw

Oriau gwaith: pum diwrnod (dydd Llun i ddydd Gwener) o 37 awr, ac eithrio amser cinio

Lleoliad: Yn gweithio gartref, gan deithio i bob cwr o Gymru yn rheolaidd, a’r angen i aros i ffwrdd o gartref yn rheolaidd am hyd at bedair noson

Os oes gennych ddiddordeb mewn rôl unigryw ym maes addysg a hyfforddiant yng Nghymru, ewch i’n gwefan i gael gwybod mwy: www.estyn.llyw.cymru neu anfonwch neges e-bost atom yn recriwtio@estyn.llyw.cymru


JOB REQUIREMENTS
Gweler y pecyn gwybodaeth