MANYLION
  • Lleoliad: Bersham Road, Wrexham, LL13 7UH
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £25,203 - £26,643
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Swyddog Lles

Swyddog Lles

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…

Teitl y Swydd: Swyddog Lles
Lleoliad: Ffordd y Bers
Math o Gontract: Llawn amser, parhaol
Graddfa Gyflog: £25,203 - £26,643

Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag ar gyfer swyddog lles i fod yn gyfrifol fel pwynt cyswllt cyntaf fel rhan o'r Tîm Diogelu ar gyfer atgyfeiriadau, ymyriadau a phryderon diogelu, gan gynnwys cysylltu ag asiantaethau allanol priodol. Bydd y swyddog lles hefyd yn ffynhonnell cymorth, cyngor ac arbenigedd ar bob mater sy'n ymwneud â lles.

Prif Dasgau:

Trin pob ymholiad gan ddysgwyr o ddydd i ddydd a darparu gwybodaeth briodol mewn ymateb i hynny, gan gynnwys ymholiadau wyneb yn wyneb, ar y ffôn, sgyrsiau ar-lein a thrwy e-bost.
Sicrhau bod pob dysgwr yn cael cymorth gyda materion iechyd a llesiant.
Darparu cymorth a darpariaeth cyflenwi ar unrhyw un o safleoedd y coleg.
Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar y cyd â'r Tîm Diogelu, ar gyfer pob atgyfeiriad, ymyrraeth a phryder diogelu.
Cysylltu ag asiantaethau allanol priodol a gwneud atgyfeiriadau atynt, a sicrhau bod yr holl bryderon diogelu yn cael eu trin yn brydlon ac yn briodol.
Sicrhau bod pob cofnod yn cael eu cynnal a chamau gweithredu’n cael eu diweddaru.
Gweithredu fel ffynhonnell cymorth, cyngor ac arbenigedd i ddysgwyr a staff ar bob mater sy’n ymwneud â llesiant.
Mynychu cyfarfodydd Strategol Amddiffyn Plant aml-asiantaeth, cyfarfodydd Plant mewn Angen fel a phan bo angen.
Cynnal Asesiadau Risg i Ddysgwyr ar gyfer dysgwyr unigol sy'n datgelu euogfarn droseddol neu Rybudd gan yr Heddlu.
Mynychu cyfarfodydd allanol ar ran y coleg ynghylch dysgwyr sy’n cael eu cefnogi gan y Gwasanaeth Prawf/Cyfiawnder Ieuenctid.
Cynnal gwybodaeth berthnasol gyfredol am faterion Diogelu allweddol gan gynnwys Radicaleiddio ac iechyd meddwl.

Gofynion Hanfodol

Safon dda o addysg (TGAU Gradd C ac uwch mewn llythrennedd a rhifedd)
Lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad
Cymhwyster Lefel 3 mewn Diogelu
Gwydnwch personol rhagorol

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i wella proffil y Gymraeg.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion, y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’, yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo llesiant yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Os byddwch yn llwyddiannus, efallai y bydd yn ofynnol i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, yn ddibynnol ar y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani.
Sylwer bod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau ein swyddi gwag yn gynharach na’r dyddiad a nodwyd petaem yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddem yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted ag y bo modd os ydych yn dymuno cael eich ystyried ar gyfer y swydd.