MANYLION
  • Lleoliad: Merthyr Tydfil, Merthyr Tydfil, CF47 8AN
  • Testun: Gwaith Ieuenctid
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £20,092 - £22,183
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Gweithiwr Ieuenctid ar y Stryd

Gweithiwr Ieuenctid ar y Stryd

Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
RE-996

Prif Ddiben y Swydd:

Daprau gweithgareddau priodol sy’n ymateb i anghenion addysgiadol a datblygiadol pobl ifanc nad ydynt yn mynychu gwasanaethau ieuenctid a chymunedol presennol yn y Fwrdeistref Sirol.

Gweithio wyneb yn wyneb â phobl ifanc mewn dull gweithredu ar wahân, symudol yn y gymuned ledled y fwrdeistref sirol.

Chwarae rôl allweddol wrth ddelio â materion ynghylch anfodlonrwydd, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac agenda diogelwch y gymuned yn ehangach drwy weithio â phobl ifanc.

Cymryd cyfrifoldeb dros gyflenwi arbenigedd/maes arbenigol ar gyfer gwaith ieuenctid a gwaith cymunedol mewn partneriaeth â chydweithwyr i sicrhau darparu’n effeithiol ledled y fwrdeistref.

Prif Atebolrwydd:

Gweithio wyneb yn wyneb â phobl ifanc a leolir ar y stryd oddi fewn i’r Fwrdeistref Sirol.

Cefnogi partneriaid i gyflawni rhaglen ddysgu benodol sydd wedi ei gosod ar y fframwaith cymwysterau neu gyfrannu at anghenion dysgu ehangach y bobl ifanc hynny sydd mewn perygl o ymddieithrio o addysg, hyfforddiant a chyflogaeth (NEET)

Darparu rhaglenni addysgiadol anffurfiol i bobl ifanc mewn partneriaeth â phobl ifanc a’r gymuned ehangach.

Dynodi pobl ifanc sy’n wynebu problemau cymhleth ac sydd ag angen cymorth ychwanegol arnynt a chymhwyso tîm ag agwedd deuluol sy’n cyflawni rôl arweiniol y gwaith ac yn sefydlu cysylltiadau â rhieni i gefnogi’r bobl ifanc hyn i gynnal ymgysylltiad a mynd i’r afael ag unrhyw ffactorau ataliol sy’n andwyol i’w datblygiad personol.

Cynllunio a gwerthuso eich ymarfer eich hun drwy gwblhau systemau a gweithdrefnau cytunedig, gan gyflwyno tystiolaeth yn effeithiol o ran eich cyfraniad tuag at nodau ac amcanion y rhaglen.

Cyflenwi cyfleoedd achrededig anffurfiol a ffurfiol i bobl ifanc yn eich rhaglen eich hun ac â sefydliadau a leolir yn y gymuned ehangach.

Cynnal systemau sy’n sicrhau bod ymgynghori yn digwydd â phobl ifanc a’u bod yn cael eu cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau. Galluogi pobl ifanc i sefydlu a chynnal cysylltiadau â fforymau, yn enwedig Fforwm Ieuenctid Merthyr Tudful, Cyngor Ysgolion ac annog Pobl Ifanc i gael eu cynrychioli ar Fforymau Cenedlaethol.

Sicrhau fod cynnydd plant a phobl ifanc yn cael ei gefnogi’n llwyr drwy gynnal tystiolaeth effeithiol a chynhwysfawr ynghylch datblygiad a chyflawniad pobl ifanc, yn unol ag anghenion y gwasanaeth a’r bobl ifanc.

Sicrhau fod plant a phobl ifanc yn cael mynediad at wybodaeth briodol a gwasanaethau’r cyngor, gan arwyddbostio at wasanaethau eraill a chefnogi pobl ifanc fel sy’n briodol.

Cefnogi a datblygu cyfranogiad pobl ifanc yn y prosiect, drwy ymgynghoriadau, pwyllgorau ieuenctid a gweithredu’r pecyn cymorth cyfranogi.


Glynu at bolisïau ac ymarferion Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cynnwys Cyfleoedd Cyfartal, Iechyd a Diogelwch, Amddiffyn Plant ymhlith eraill.

Cydsynio â dulliau cytunedig o afael mewn data a’i gofnodi ar gyfer allbynnau a deilliannau’r gwasanaeth.

Dynodi ac archebu adnoddau perthnasol i gefnogi darparu cwricwlwm cytbwys o weithgareddau dysgu oddi fewn i’r adnoddau sydd ar gael, neu a gytunwyd. Bod yn gyfrifol am, a dilyn canllawiau CBSMT, o ran cynnal a chadw stocrestr o’r offer.

Sicrhau arferion gwaith diogel, glynu wrth weithdrefnau Iechyd a Diogelwch CBSMT.

Cyfrifoldeb dros unrhyw ddyletswyddau ariannol sy’n aliniedig â’r ddarpariaeth a glynu wrth bolisïau CBSMT o ran rheoliadau ariannol.

Cyfrifoldeb dros adeiladu rheolaeth ac iechyd yn unol â chanllawiau Iechyd a Diogelwch, polisïau a gweithdrefnau CBSMT.

Cyflawni unrhyw dasgau eraill yr ystyrir eu bod yn rhesymol i’r rôl.