MANYLION
  • Lleoliad: Swansea, Swansea, SA2 0FR
  • Testun: TAR Cyflogedig
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Misol
  • Salary Range: £19,412.00 - £30,700.00
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

Athro Cymraeg - Ysgol Uwchradd Dylan Thomas, Abertawe

Athro Cymraeg - Ysgol Uwchradd Dylan Thomas, Abertawe

Y Brifysgol Agored yng Nghymru
Mae Ysgol Uwchradd Dylan Thomas yn Abertawe yn edrych am athro Cymraeg. Gwnewch gais i'r cwrs TAR nawr i astudio i ddod yn athro Cymraeg drwy'r llwybr cyflogedig gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru.

I ddod yn athro, mae angen i chi ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC) trwy ddarparwr achrededig yng Nghymru. Bydd cwrs TAR arloesol y Brifysgol Agored yng Nghymru yn eich cymhwyso i weithio ar lefel ysgol uwchradd.

Sut mae'r cwrs TAR yn gweithio?
Mae’r cwrs TAR yn cynnwys cymysgedd o sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb gyda mentoriaid a thiwtoriaid ymarfer a bydd yn cymryd dwy flynedd o astudio i’w gwblhau. Byddwch yn cael profiad o addysgu mewn dwy ysgol wahanol. Mae'r cymhwyster wedi'i gynllunio ar gyfer addysgu yng Nghymru ac ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru . Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar gyflogadwyedd a bydd yn eich paratoi i ymuno â'r proffesiwn addysgu. Fel cymhwyster addysgu galwedigaethol, caiff ei achredu gan CGA (Cyngor y Gweithlu Addysg) a'i fonitro gan Estyn. Mae’r cyfuniad o sgiliau a phrofiad academaidd a seiliedig ar ymarfer yn ganolog i’r rhaglen, gan sicrhau eich bod yn gyfarwydd ag ‘ymarfer fel theori a theori fel ymarfer’.

Beth yw'r llwybr cyflogedig?
Gyda llwybr cyflogedig Y Brifysgol Agored yng Nghymru, byddwch yn astudio ar gyfer eich TAR tra'n gweithio'n llawn amser mewn ysgol. Bydd y rhan fwyaf o'r amser yn cael ei dreulio yn ysgol y cyflogwr, ond ym mis Mehefin a mis Gorffennaf ym mlwyddyn 1 byddai disgwyl i chi ymgymryd ag ail leoliad mewn ysgol bartner. Byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i ysgol uwchradd sy'n barod i'ch cymeradwyo. Caiff eich costau astudio eu talu gan grant hyfforddi gan Lywodraeth Cymru a bydd eich cyflog yn cael ei dalu gan yr ysgol rydych yn gweithio ynddi. Bydd y cyflog a gaiff myfyrwyr fel arfer yn cael ei osod ar isafswm y raddfa gyflog athrawon heb gymhwyso. Bydd yr uchafswm yn ddibynnol ar yr ysgol gyflogi a phrofiad.

Pa gefnogaeth ydw i'n ei gael?
Er ein bod yn addysgu ein cwrs TAR trwy ddysgu o bell, mae llawer o gefnogaeth ar gael. Bydd gennych diwtor cwricwlwm a fydd yn arbenigwr yn eich maes dewis, a mentor yn yr ysgol a fydd yn rhoi cymorth a chyngor ymarferol. Yn ogystal, byddwch yn gallu siarad â Thîm Cymorth i Fyfyrwyr ymroddedig a all roi cymorth ac arweiniad i chi drwy gydol eich astudiaethau. Hefyd, gallwch gysylltu â chyd-fyfyrwyr trwy ein grwpiau trafod yn y modiwl. Yn ogystal, byddwch yn dod yn aelod o’n cymdeithas myfyrwyr gweithgar yn awtomatig pan fyddwch yn cofrestru. Fyddwch chi byth ar eich pen eich hun.

Rydym wedi cynllunio ein profiad dysgu i gyfuno hyblygrwydd a chyswllt rheolaidd. Byddwn yn rhoi'r help sydd ei angen arnoch i ddysgu yn y ffordd orau bosibl. Byddwch yn gallu astudio gartref, neu yn yr ysgol. Byddwch yn defnyddio ein hamgylchedd dysgu i gael mynediad at diwtorialau byw gorfodol, cynnwys modiwl fel gwerslyfrau, fideo a sain, a gweithgareddau ymarfer dysgu. Dyma lle byddwch hefyd yn rhyngweithio â thiwtoriaid a myfyrwyr eraill mewn fforymau ar-lein.

Sut i wneud cais
I gael rhagor o wybodaeth am cwrs TAR Y Brifysgol Agored yng Nghymru, cyfeiriwch at y Prosbectws TAR yn yr adran dogfennau isod. Mae'r gofynion mynediad (a ddiweddarwyd yn Tachwedd 2022) ar gael yn openuniversity.co.uk/cymru-tar neu .open.ac.uk/postgraduate/cymraeg/tar-k36. Gallwch hefyd gyflwyno unrhyw ymholiadau i TAR-Cymru@open.ac.uk

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Mehefin 2023. Bydd y rhaglen yn cychwyn yn Hydref 2023, ond bydd myfyrwyr ar y llwybr cyflogedig yn cychwyn eu cytundeb cyflogaeth ar ddechrau’r flwyddyn academaidd ym mis Medi. Sicrhewch eich bod yn dewis y llwybr 'heb ardystiad' ar y ffurflen gais a pheidiwch cysylltu gyda'r ysgol yn uniongyrchol, os gwelwch yn dda.
JOB REQUIREMENTS
Er mwyn astudio'r llwybr cyflogedig i ddod yn athro uwchradd Cymraeg, bydd angen cwrdd a'r gofynion canlynol:

- Safon sy’n gyfwerth â Gradd C TGAU neu uwch mewn mathemateg neu Mathemateg - Rhifedd
- Safon sy’n gyfwerth â Gradd C TGAU neu uwch mewn naill ai Cymraeg Iaith Gyntaf neu Saesneg Iaith
- Rhaid i chi gael cyfeiriad cartref yng Nghymru neu Loegr a gallu cwblhau eich profiad addysgu mewn dwy ysgol wladol yng Nghymru
- Gradd llawn yn y DU (neu gyfwerth). Argyfer Cymraeg Uwchradd, nid oes rhaid i'ch gradd fod yn y maes hwn o reidrwydd os gallwch ddangos eich bod yn ddefnyddiwr iaith rhugl, gan y gellir ystyried dyfnder gwybodaeth
- Profiad o weithio mewn amgylchedd ysgol/gyda phobl ifanc

Yn ogystal â hynny, bydd angen i chi ddangos y canlynol:

- Dawn, gallu a gwydnwch i fodloni'r canlyniadau SAC gofynnol erbyn diwedd eich rhaglen TAR
- Rhinweddau personol a deallusol i ddod yn ymarferydd rhagorol
- Gallwch ddarllen yn effeithiol a chyfathrebu'n glir ac yn gywir mewn Cymraeg a/neu Saesneg llafar ac ysgrifenedig
- Sgiliau swyddogaethol personol mewn llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol sy'n berthnasol mewn cyd-destun addysgu a dysgu proffesiynol. Bydd hyn yn cael ei werthuso drwy asesiad

Yn ystod y broses ymgeisio bydd angen i chi wneud y canlynol:

- Gwneud cais am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i ddangos nad ydych wedi'ch gwahardd o’r blaen rhag addysgu neu weithio gyda dysgwyr, neu fod gennych gefndir troseddol a allai eich atal rhag gweithio gyda phlant neu bobl sy'n agored i niwed. Mae diogelu yn ofyniad cyfreithiol
- Cadarnhau eich bod yn deall y bydd angen i chi gwblhau cyfnod estynedig o amser mewn ail ysgol
- bydd angen i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg