MANYLION
  • Lleoliad: Bangor, Gwynedd, LL57 2TP
  • Testun: Gweithiwr Cymorth Dysgu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £21,514 - £22,464
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Rhagfyr, 2022 12:00 y.p

This job application date has now expired.

MENTOR LLWYDDIANT DYSGWYR, RHAN AMSER, TYMOR YN UNIG

MENTOR LLWYDDIANT DYSGWYR, RHAN AMSER, TYMOR YN UNIG

Grwp Llandrillo Menai
Cyflwyniad i’r swydd:
● Ydych chi yn hoffi gweld pobl ifanc yn llwyddo?
● Oes gennych chi y sgiliau i gael y gorau allan o bobl ifanc?
● Ydych chi’n berson agored; hwyliog a phenderfynol?
● Ydych chi yn hoffi gweithio a helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial?

............Os ydych yn ateb yr uchod yn gadarnhaol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth i fywydau a dyfodol pobl ifanc, yna mae’r swydd hon yn ddelfrydol ar eich cyfer chi. Byddwch yn gweithio gyda thîm o staff ymroddedig eraill i sicrhau cyfleon a chefnogaeth deilwng i ddysgwyr y Grŵp.




PWRPAS Y SWYDD
Mae Grŵp Llandrillo Menai yn peilota swyddogaeth newydd sef Mentor Llwyddiant Dysgwyr(MLlD). Bydd deiliaid y swyddi hyn yn cefnogi ein dysgwyr llawn amser i uchafu eu presenoldeb yn y coleg, canolbwyntio a chyflawni eu nodau addysgiadol.

Bydd y MLlD yn cael eu rheoli yn uniongyrchol gan Reolwyr Maes Rhaglen ac fe fyddant yn cefnogi tiwtoriaid personol i ddelio gyda’r materion dysgwyr canlynol:


● Diffyg Presenoldeb
● Ymddygiad annerbyniol
● Methiant i gwblhau gwaith colegol

JOB REQUIREMENTS
Gweler ynghlwm