MANYLION
  • Lleoliad: Tonypandy, Rhondda Cynon Taf, CF40 1NY
  • Testun: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £16,999 - £16,999
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Rhagfyr, 2022 12:00 y.p

This job application date has now expired.

CYNORTHWY-YDD TROCHI YN Y GYMRAEG (2 SWYDD)

CYNORTHWY-YDD TROCHI YN Y GYMRAEG (2 SWYDD)

Rhondda Cynon Taf
CYNGOR RHONDDA CYNON TAF

CYNORTHWY-YDD TROCHI YN Y GYMRAEG (2 SWYDD)

Lleoliad – Tŷ Trevithick fel canolfan/peripatetig

Oriau: 32½ awr yr wythnos - tymor yr ysgol yn unig

Cyflog - Gradd 6, £22,129 x 76.82%

Dyddiad Cychwyn y Swydd – mis Ionawr 2023 tan fis Mawrth 2025 – Ariennir yn Allanol – Mae potensial i’r swydd yma gael estyniad y tu hwnt i’r dyddiad yma.

Mae Rhondda Cynon Taf yn dymuno penodi Cynorthwy-ydd Trochi yn y Gymraeg i weithio yn Nhŷ Trevithick ac yn beripatetig ledled Rhondda Cynon Taf i gyd-fynd â'n carfan bresennol.

Dyma gyfle cyffrous i fod yn rhan o’r garfan drochi newydd sy’n cael ei sefydlu o fewn Carfan Cyflawniad Ysgolion Cynradd yr Adran Addysg. Bydd deiliad y swydd yma'n gweithio dan arweiniad yr Athro Trochi yn y Gymraeg i gyflwyno model peripatetig o ddarpariaeth trochi yn y Gymraeg effeithiol ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi disgyblion sy'n hwyrddyfodiaid i'r Gymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg, neu'r rhai sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd ac sydd angen cymorth ychwanegol wedi'i dargedu o ran eu caffaeliad iaith.

Mae’r swydd yma'n rhan annatod o gyflawni’r deilliannau sydd wedi’u cynnwys yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSCA) Rhondda Cynon Taf a bydd yn cefnogi’r ymrwymiadau a amlinellir yn Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg.

Am ragor o wybodaeth am y swydd cysylltwch â Mr Tim Britton, Pennaeth Cyflawniad – tim.britton@rctcbc.gov.uk

Rhaid cyflwyno cais erbyn 12.00pm (canol dydd) Dydd Llun 21 Tachwedd.

Mae modd dod o hyd i ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb person ar gyfer y swydd drwy wefan Recriwtio'r Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen https://rhondda-cynon-taf.tal.net/vx/lang-cy/appcentre-3/candidate. Nodwch – i gyflwyno cais am y swydd yma, mae angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein sydd ar wefan Cyngor RhCT. O beidio â llenwi'r cais ar-lein byddwn ni'n cyfrif hynny fel nad ydych chi wedi gwneud cais am y swydd.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R HOLL STAFF A BENODIR GAN Y CYNGOR.

YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.