MANYLION
  • Lleoliad: Pencoed, Bridgend, CF35 5LG
  • Testun: technegydd
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £10.58 - £11.32
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

Technegydd Gosodiadau Trydanol Achlysurol

Technegydd Gosodiadau Trydanol Achlysurol

Coleg Penybont
Noder, contract a delir yn ôl yr awr yw hon, sy’n golygu na ellir gwarantu dyddiau ac oriau penodol - fe’u cynigir ar sail achlysurol, ad hoc, i fodloni anghenion y gwasanaeth, felly gallant amrywio.

Pwrpas y swydd: Cefnogi’r tîm darparu, paratoi deunyddiau ac adnoddau dysgu, a chynnal a chadw gweithdai, offer ac adnoddau er mwyn cynorthwyo gyda darpariaeth hyfforddiant effeithlon ac effeithiol.

Byddwch yn cynnal a chadw’r holl systemau, offer, taclau, offerynnau a chymhorthion dysgu i sicrhau bod rhaglenni dysgu’n gweithredu’n effeithlon. Bydd hyn hefyd yn cynnwys paratoi a chynnal gweithdai Trydanol / Electronig, labordai ac ystafelloedd dosbarth ar gyfer amryw o waith dosbarth, arddangosiadau, gwaith arbrofol a sesiynau ymarferol ar gyfer amryw o gyrsiau.

JOB REQUIREMENTS
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol gymhwyster Lefel 3 o leiaf gyda phrentisiaeth gydnabyddedig mewn Peirianneg Drydanol / Electronig. Byddwch hefyd yn meddu ar sgiliau ystod dda o brofiad Peirianneg Drydanol / Electronig a sgiliau peirianneg gyffredinol a gwyddonol da. Yn ogystal â sgiliau rhyngbersonol rhagorol a’r gallu i ddatblygu perthynas â myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol, fe fyddwch yn angerddol am ysgogi pob dysgwr.