MANYLION
  • Lleoliad: Deeside, Flintshire, CH5 4BR
  • Testun: Ymarferwr Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,639 - £31,149
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 06 Rhagfyr, 2022 8:17 y.p

This job application date has now expired.

Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith -  Rheoli

Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith -  Rheoli

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth
https://colegcambria.ciphr-irecruit.com/Applicants/vacancy/3402/Work-based-learning-practitioner----Management?m=0

Teitl y Swydd: Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith -  Rheoli

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser 

Graddfa Gyflog:  £27,639 - £31,149

Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag ar gyfer Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith mewn Rheoli

Bydd yr ymarferydd yn asesu'r ystod lawn o gymwysterau o fewn y maes pwnc perthnasol yn unol â gofynion y sefydliad dyfarnu sy'n gysylltiedig â sgiliau a chymhwysedd galwedigaethol. Gweithio gyda llwyth achosion o ddysgwyr a bennir gan fformiwla llwyth achosion perthnasol y coleg. Bydd yr Ymarferydd yn cynnal Dadansoddiad o Anghenion Hyfforddi ar gyfer dysgwyr, yn cofrestru ar gyrsiau priodol ac yn darparu hyfforddiant, mentora a chyfleoedd dysgu yn ogystal â chyflwyno sesiynau gwybodaeth sylfaenol i ddysgwyr naill ai ar sail 1-i-1 neu fel gweithdy (argymhellir uchafswm maint grŵp o 8).

Monitro cynnydd dysgwyr tuag at gymwysterau, rhoi adborth adeiladol iddynt a'u harwain i baratoi e-bortffolio o dystiolaeth.

Asesu portffolios dysgwyr a chyflwyno portffolios wedi'u cwblhau ar gyfer sicrhau ansawdd mewnol.

Gofynion Hanfodol

Cymhwyster proffesiynol perthnasol Lefel 4 o leiaf, neu gymhwyster cyfatebol

Meddu ar gymhwyster asesydd  (TAQA) 

Meddu ar gymhwyster Sicrhau Ansawdd (Uned TAQA 401/2 ar hyn o bryd) neu fod yn barod i weithio tuag at

Cymwysterau Saesneg a Mathemateg Lefel 2 (neu gyfwerth) ar Radd 4 (C) neu uwch

Meddu ar neu fod yn barod i weithio tuag at gymhwyster Lefel 2 Llythrennedd Digidol

Profiad diwydiant profedig o fewn maes sy'n berthnasol yn broffesiynol Rheolaeth Strategol a/neu Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Profiad o weithio gyda sefydliadau dyfarnu

Profiad o gysylltu a gweithio mewn partneriaeth â rheolwyr allanol mewn diwydiant

Gallu dangos ymrwymiad i gynnal a datblygu safonau ansawdd o fewn addysg

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i wella proffil y Gymraeg. 

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol  ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’. 

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny. 

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion, y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’, yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo llesiant yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Os byddwch yn llwyddiannus, efallai y bydd yn ofynnol i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, yn ddibynnol ar y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani.

Sylwer bod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau ein swyddi gwag yn gynharach na’r dyddiad a nodwyd petaem yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddem yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted ag y bo modd os ydych yn dymuno cael eich ystyried ar gyfer y swydd