MANYLION
  • Lleoliad: Ystrad, Rhondda Cynon Taf, CF41 7RX
  • Testun: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £12,773 - £12,773
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwydd Dysgu Dros Dro – Lefel 2

Cynorthwydd Dysgu Dros Dro – Lefel 2

Ysgol Gynradd Gymraeg Bodringallt
YSGOL GYNRADD GYMRAEG BODRINGALLT
Bryn Terrace, Ystrad Rhondda, CF41 7RX
01443 434096


140 disgybl

Cynorthwydd Dysgu Dros Dro – Lefel 2

Oriau: 27.5 Oriau yr wythnos – amser tymor yn unig

Cyflog – Gradd 4 £19,650 x 65%

Dau dymor yn yr achos cyntaf.

Yn eisiau Mis Ionawr 2023 neu cyn gynted â phosibl ar ôl hynny.

Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi cynorwthwyyd addysgu i weithio yn Ysgol Gynradd Gymraeg Bodringallt ac ymuno â'n carfan bresennol.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio ochr yn ochr â'r aelodau staff presennol i ddarparu profiadau dysgu cyffrous a diddorol yn y dosbarth Meithrin neu’r Derbyn.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus cael sgiliau llythrennedd, Cymraeg a Saesneg, a rhifedd o safon uchel.

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am y swydd, cysylltwch â’r Pennaeth ar 01443 434096.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd 12pm ar Dydd Gwener 25 Tachwedd 2022.

MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD YR YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.