MANYLION
  • Lleoliad: Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BP
  • Testun: Sgiliau ar gyfer y Gweithle
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £21,506 - £39,357
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 13 Rhagfyr, 2022 4:25 y.p

This job application date has now expired.

Mae’r penodiad hwn ar gyfer Darlithydd Sgiliau Hanfodol 0.5 (dros dro)

Mae’r penodiad hwn ar gyfer Darlithydd Sgiliau Hanfodol 0.5 (dros dro)

Coleg Sir Gar
Mae’r penodiad hwn ar gyfer Darlithydd Sgiliau Hanfodol 0.5 (dros dro). Rydym yn chwilio am athrawes/athro brwdfrydig a phenderfynol i sicrhau bod dysgwyr yn dangos ymrwymiad i’r meysydd hyn ac yn barod iawn i gael eu hasesu, gan ddefnyddio tasgau gwahaniaethol a strategaethau arbenigol, fel y bo'n briodol, i ysgogi a chynnal diddordeb, ac i ddatblygu hyder a hunanbarch y dysgwyr.

Os ydych yn chwilio am her yn eich gyrfa, mae'r cyfle hwn yn addo bod yn werthfawr a boddhaus. Yn y rôl hon byddwch yn dysgu ac yn cefnogi ystod amrywiol o bobl ifanc ac oedolion, i'w galluogi i gyflawni cam nesaf eu gyrfa neu eu dyheadau addysgol.

Bydd arnoch angen sgiliau cyfathrebu neilltuol ynghyd â'r gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith heriol.

Bydd y darlithydd Sgiliau Hanfodol llwyddiannus a benodir yn cefnogi dysgwyr sy'n dilyn ystod eang o gyrsiau Addysg Bellach yn y coleg, i sicrhau bod ganddynt y sgiliau priodol i lwyddo yn eu dysgu.

Byddai profiad o gyflwyno Cymwysterau Sgiliau Hanfodol yn ogystal â statws athro cymwysedig yn ffafriol
Cyfrifoldebau Allweddol
Ymgymryd ag addysgu ac asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol (Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu)

Cysylltu â chydlynwyr Sgiliau Hanfodol y coleg i sicrhau yr ymgymerir â gweithdrefnau Dilysu Mewnol Sicrhau Ansawdd mewn modd priodol ac amserol.

Sicrhau bod yr holl Gymwysterau Sgiliau Hanfodol a gwblhawyd yn llwyddiannus yn cael eu hawlio mewn modd amserol.

Adrodd wrth y Rheolwr Gwella Sgiliau ynghylch cynnydd a chwblhad.

Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.
Sgiliau, Profiad ac Arbenigedd
Hanfodol
Gradd neu gymhwyster cyfwerth
Cymhwyster addysgu (Os nad ydych yn meddu ar gymhwyster addysgu ar ddyddiad dechrau’r swydd, bydd hi’n ofynnol i chi ennill TAR o fewn 2 flynedd i’r dyddiad hwn)
TGAU Saesneg & Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
Tystiolaeth ddogfennol o Ddatblygiad Proffesiynol priodol
Sgiliau llythrennedd/rhifedd/llythrennedd digidol da
Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
Y gallu i weithio’n gytûn gyda dysgwyr a chydweithwyr
Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
Prydlondeb ardderchog a'r gallu i weithio'n hyblyg
Dymunol
Profiad addysgu perthnasol
Dealltwriaeth dda o faterion perthnasol mewn addysg ôl 16
Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad dysgwyr
Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
Trwydded yrru gyfredol
Parodrwydd i yrru bws mini’r coleg

Yr Iaith Gymraeg:
Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
JOB REQUIREMENTS