MANYLION
- Lleoliad: Deeside, Flintshire, CH5 4BR
- Testun: Gweinyddwr
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Blynyddol
- Iaith: Saesneg
- Dyddiad Cau: 13 Rhagfyr, 2022 11:45 y.p
This job application date has now expired.
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth
Teitl y Swydd: Gweinyddydd Data
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy
Y Math o Gontract: Llawn Amser - Parhaol
Cyflog: £20,277 - £21,690
Mae Coleg Cambria bellach yn chwilio am Weinyddydd Data i ymuno â’i dîm Systemau Gwybodaeth sy’n seiliedig ar ei safle Glannau Dyfrdwy.
Fel Gweinyddydd Data, byddwch yn gyfrifol am wirio a mewnbynnu/diweddaru data’n gywir i System Rheoli Gwybodaeth y Coleg. Yn ogystal â hynny, byddwch yn diweddaru data ar systemau allanol fel rhai Cyrff Dyfarnu a’r Gwasanaeth Cofnodion Dysgwyr, yn ôl y gofyn. Mae’n bwysig eich bod yn cynnal gwybodaeth sylfaenol o ofynion GDPR a Pholisïau a Gweithdrefnau Diogelwch Gwybodaeth y Coleg i sicrhau bod yr holl brosesu a rhannu data yn unol â'r ddau yma.
Gofynion Hanfodol
● Cymwysterau Lefel 2 Saesneg a Mathemateg neu gymwysterau cyfwerth
● Cymhwyster NVQ Gweinyddu Busnes Lefel 2 o leiaf
● Profiad gweinyddol diweddar mewn amgylchedd swyddfa brysur
● Dealltwriaeth sylfaenol o GDPR a phwysigrwydd Diogelwch Gwybodaeth.
● Gallu dangos lefel uchel o gymhwysedd TG
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani ac os ydych yn llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr ar gyfer unrhyw swydd yn gynnar pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.