MANYLION
  • Lleoliad: Northop, Flintshire, CH7 6AA
  • Testun: Swyddog Gweinyddol
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £20,277 - £21,690
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 01 Rhagfyr, 2022 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Swyddog Cyllid (Cyfriflyfr Prynu)

Swyddog Cyllid (Cyfriflyfr Prynu)

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Swyddog Cyllid (Cyfriflyfr Prynu)

Lleoliad: Llaneurgain

Math o Gontract: Parhaol – Rhan amser

Cyflog: £20,277 - £21,690 (Pro rata)

● Rydym yn chwilio am Swyddog Cyllid - Cyfriflyfr Prynu i ymuno â’n tîm Cyllid ar ein safle yn Llaneurgain. Fel swyddog Cyllid byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod yr anfonebau Prynu yn cael eu prosesu a’u talu mewn modd prydlon ac effeithlon.
● Monitro cofnodion ariannol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau a’r gweithdrefnau ariannol.
● Cysoni a llunio’r datganiadau ac adroddiadau ariannol priodol, gan gysylltu â staff y coleg a phartïon allanol fel y bo angen.
● Cynorthwyo gyda llunio gweithdrefnau a systemau ariannol.
● Ymgymryd â dyletswyddau cyffredinol gweinyddu swyddfa i gynorthwyo gyda’r swyddogaeth Cyllid.
● Defnyddio dull sy’n “canolbwyntio ar wasanaeth” i’r holl staff a’r cwsmeriaid sy’n gywir, prydlon ac yn hawdd ei ddefnyddio.
● Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i’r swydd.

Gofynion Hanfodol
● Yn gymwys mewn graddau TGAU A-C mewn Saesneg a Mathemateg.
● Cymhwyster NVQ Lefel 3 o leiaf, neu gymhwyster cyfwerth, mewn maes arbenigedd proffesiynol.
● Profiad gwaith blaenorol o weithio o fewn adran gyllid prysur.
● Profiad o gydlynu gweithdrefnau neu brosesau mewn adran gyllid.
● Gallu defnyddio pecynnau TG yn fedrus - gallu dod i arfer gyda defnyddio meddalwedd TG a phecynnau Cyllid newydd yn rhwydd. Gallu llywio’r Rhyngrwyd a Mewnrwydi hefyd.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani ac os ydych yn llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.