MANYLION
- Lleoliad: Llanelli, Carmarthenshire, SA14 8RP
- Pwnc: Pennaeth
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Blynyddol
- Iaith: Saesneg
- Dyddiad Cau: 12 Hydref, 2022 11:59 y.p
This job application date has now expired.
Mae'r Corff Llywodraethu am benodi Pennaeth Ysgol ysbrydoledig yn dilyn dyrchafiad deiliad blaenorol y swydd i swydd pennaeth mewn ysgol uwchradd arall.
Dyma gyfle i ymuno â thîm arwain gweithredol deinamig a hyblyg, sydd wedi ymrwymo i alluogi ein disgyblion i gyflawni mwy nag yr oeddent erioed wedi meddwl ei fod yn bosibl, ac i arwain y tîm hwnnw. Bydd eich datblygiad proffesiynol yn bwysig i ni. Bydd y rôl hon yn paratoi'r ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer swydd pennaeth naill ai yn y Ffederasiwn neu mewn ysgol arall.
Mae Ysgol Bryngwyn wedi'i lleoli ger Coridor yr M4 ac arfordir deniadol Llanelli ac mae'n ysgol sydd ar y blaen o ran rhagoriaeth addysgol. Mae Ysgol Bryngwyn yn darparu addysg ragorol i 1100 o ddisgyblion 11-16 oed ac ers 2014 mae'n gweithio'n llwyddiannus iawn mewn ffederasiwn strategol gydag Ysgol Glan-y-Môr, Porth Tywyn. Mae Ysgol Bryngwyn ar drothwy cyfnod newydd cyffrous o ran ei datblygiad. Mae prosiect moderneiddio ysgol sylweddol ar fin dechrau i ddatblygu bloc newydd ar gyfer gwyddoniaeth, lles a ffreutur, yn ogystal â datblygu cyfleusterau chwaraeon pob tywydd arloesol. Fel Ysgol Arloesi, mae gennym yr uchelgais i ddatblygu arferion sy'n arwain y sector ar draws sawl maes, o ddangos gwerth ychwanegol uchel a hyrwyddo lles, i ddatblygu deilliannau uchel ar draws y pynciau craidd a sylfaen. Rhoddir sylw sylweddol i ymchwil ac ymholiad gweithredu. Yn ogystal, rydym yn gweithredu canolfan hyfforddiant galwedigaethol ar gyfer adeiladu a'r amgylchedd adeiledig sy'n cael ei defnyddio mewn partneriaeth ag ysgolion cyfagos a'r darparwr Addysg Bellach lleol, Coleg Sir Gâr.
Mae Ysgol Bryngwyn yn orlawn ond mae'n bosibl y bydd yn tyfu wrth i'r datblygiadau newydd gael eu cwblhau. Mae'n ysgol o ddewis. Mae ein disgyblion a'n staff bob amser yn ymdrechu i fod y gorau y gallant fod ac mae'n bleser bod yn eu cwmni.
Mae'r Corff Llywodraethu am benodi arweinydd rhagorol i ymuno â'r tîm arwain gweithredol presennol sy'n perfformio'n dda, i fod yn Bennaeth Ysgol Bryngwyn. Bydd Pennaeth yr Ysgol yn gyfrifol am bob agwedd ar y gweithrediadau ar safle Ysgol Bryngwyn o ddydd i ddydd ac yn cyfrannu at arweinyddiaeth strategol y Ffederasiwn ar y cyd â'r Pennaeth Gweithredol a Thîm Uwch-arweinwyr y Ffederasiwn.
Byddwch:
• yn emosiynol ddeallus ac yn dangos tystiolaeth eich bod wedi sicrhau deilliannau llwyddiannus drwy arwain, cefnogi, datblygu a herio cydweithwyr i lwyddo
• yn ceisio adborth yn barhaus a gweithredu yn unol â hynny i wella profiad disgyblion, parhau i wella cynnydd a chodi safonau a datblygu ymhellach fel arweinydd
• yn esiampl gadarnhaol i gydweithwyr a disgyblion fel ei gilydd, gan feithrin ymddiriedaeth a pharch
• yn angerddol dros sicrhau bod ein disgyblion yn llwyddo drwy greu amgylchedd lle mae pawb yn cael eu hannog i gyrraedd eu potensial llawn.
Mae Bryngwyn yn falch o fod yn ysgol sydd yng nghanol ei chymuned. Mae'n meithrin perthynas ragorol ac yn creu undod a chydlyniant gyda grwpiau cymunedol a rhieni. Mae'r gwaith ymgysylltu ehangach hwn yn allweddol i'w llwyddiant.
Bydd y rôl hon yn hanfodol i gyflawni cynllun datblygu newydd beiddgar sy'n gyfle cyffrous i gyfrannu at ddatblygiad y Ffederasiwn. I unigolion sy'n dymuno bod yn bennaeth ysgol, mae'r swydd hon yn gyfle gwych i ddatblygu fel arweinydd mewn sefydliad hynod lwyddiannus ac uchelgeisiol ac elwa o weithio mewn amgylchedd cynhwysol, datblygiadol a chefnogol.
Fel Pennaeth Ysgol, sy'n gweithio'n bennaf ar safle Bryngwyn, bydd gan yr ymgeisydd a benodir brofiad llwyddiannus o arwain, sgiliau trefnu a rheoli cryf ynghyd â'r galluoedd strategol i sicrhau bod Ysgol Bryngwyn ac Ysgol Glan-y-Môr yn parhau i gyflawni eu nodau uchelgeisiol.
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar yr urddas a'r awdurdod personol i ysbrydoli staff, disgyblion a rhieni ac ymrwymiad i gynnal y safonau a'r lles uchaf posibl; gwerthoedd allweddol sy'n adlewyrchu nodau ac ethos yr Ysgol. Rhaid iddynt allu bod yn atebol am yr holl weithrediadau ar y safle o ddydd i ddydd a byddant yn cyfrannu at ddatblygiad strategol y Ffederasiwn.
Mae rhagor o wybodaeth am yr ysgol ar gael ar ein gwefan: https://www.bryngwynschool.co.uk
Y dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau yw dydd Mercher, 12 Hydref 2022 am 9:00 y bore.
Mae Ysgol Bryngwyn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i fod yn destun datgeliad manwl drwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.