MANYLION
  • Lleoliad: Port Talbot, Neath Port Talbot, SA12 6HZ
  • Testun: Gweithiwr Cymorth Dysgu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £18,457 - £20,089
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 06 Hydref, 2022 9:00 y.b

This job application date has now expired.

CYMORTH I DDYSGWYR

CYMORTH I DDYSGWYR

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Mae gan Addysg Oedolion Cymru gyfle gwych i unigolyn weithio mewn partneriaeth a’n tiwtor fel Cymroth i Ddysgwyr yn ein Hwb Dysgu ym Mhort Talbot i ddarparu cymorth i’n dysgwyr ac i ymuno â sefydliad ledled Cymru sydd wedi ymrwymo i wasanaethu poblogaeth oedolion Cymru gyda chyfleoedd ysbrydoledig sy'n newid bywyd.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn fudiad democrataidd, annibynnol a gwirfoddol, sydd wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad, hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol a datblygu sgiliau a darparu dysgu o'r ansawdd gorau, gan weithio ar y cyd gyda'i bartneriaid.

Mae rôl Cymorth i Ddysgwyr yn rhan allweddol o daith ein dysgwyr tra byddant yn dilyn cwrs gyda ni. Byddwch yn cefnogi ein dysgwyr o fewn darpariaeth cwricwlwm y Celfyddydau Creadigol ac Adeiladu, sy’n cynnwys ein darpariaeth ‘Cyswllt Ysgol’ ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed, sef y grŵp o ddysgwyr y bydd y rôl hon yn eu cefnogi.

Mae hon yn rôl ymarferol lle byddwch yn gweithio dan gyfarwyddyd tiwtor y cwrs neu'r Rheolwr Gwasanaethau Dysgwyr.

Byddwch yn gyfrifol am (ond nid yn gyflawn):
 Cefnogi a chynorthwyo dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol penodol yn unol ag anghenion y dysgwyr ac Polisïau a Gweithdrefnau Addysg Oedolion Cymru
 Sefydlu perthnasoedd gwaith adeiladol ac effeithiol gyda dysgwyr a rhyngweithio â nhw yn unol â'u hanghenion unigol, a helpu i feithrin eu hyder a gwella hunan-barch
 Cynorthwyo dysgwr(dysgwyr) trwy gydol y wers, gan gynnwys goruchwyliaeth a chefnogaeth amser egwyl
 Cefnogi dysgwr/dysgwyr mewn gweithgareddau ymarferol amrywiol yn unol â meini prawf asesu pwnc y cwrs
 Gweithredu gweithgareddau dysgu / rhaglenni addysgu wedi’u cynllunio fel y cytunwyd gyda’r tiwtoriaid gan addasu gweithgareddau yn unol ag ymatebion y dysgwr(dysgwyr) fel y bo’n briodol

JOB REQUIREMENTS
Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol, sydd â phrofiad o weithio gyda dysgwyr ag ystod eang o anawsterau dysgu a/neu anabledd
gan gynnwys y rhai ag ymddygiad heriol. Rydym yn chwilio am rhywun sy'n amyneddgar, yn gallu addasu, yn greadigol ac â’r gallu i ysgogi dysgwyr anhraddodiadol.

Cymhwysterau
Hanfodol - Safon addysg Lefel 3, Cynorthwy-ydd Cefnogi Dysgu Lefel 2 neu gyfwerth, neu yn barod i weithio tuag ato.